Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/58

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fyned ar ryw neges." Ar hyn, rhoddodd ei fam ei dwylaw yn mhleth, a dywedodd dan wenu ac wylo, "Diolch i'r Arglwydd! Bendigedig fyddo ei enw yn dragywydd." Yn mhen ychydig amser fe aeth John allan i edrych ar ol rhyw bethau oedd i'w gwneyd tua'r tŷ. Wedi iddo fyned allan, dywedodd ei fam wrth ei merch henaf, "Ni chafodd John prin olwg ar ynfydrwydd y Ffair. Yr wyf yn ddiolchgar i'r Arglwydd am ei fod wedi cael ei ddwyn i ffieiddio gwylltineb ac ynfydrwydd ieuenctyd." Dywedodd Margaret wrthi, "Yr oeddwn i yn dywedyd wrthych, fy mam, na wnai John ddim ymollwng gyda'r bobl ieuainc i oferedd. Ni welais i ddim felly ynddo erioed ac ni welodd neb arall ychwaith." "Wel, Margaret bach," ebai hithau, "ofn am danoch sydd arnaf fi. Mae yn anmhosibl i fam beidio a theimlo yn ofalus am ei phlant. Os deuwch chwi byth i feddu plant eich hunain, chwi a gewch esboniad ar fy ngofal i am danoch; ac y mae yn anhawdd genyf feddwl y gellwch beidio a chofio am danaf y pryd hwnw." Nis gallwn lai nag edrych ar y dydd hwn fel yn cyfansoddi cyfnod arbenig yn hanes gwrthddrych ein Cofiant. Er nad oedd eto wedi dyfod i deimlo cymmaint o werth crefydd, ag i ymgysegru yn gwbl iddi a gwneuthur proffes gyhoeddus o honi, y mae yn eglur ei fod wedi ei ddwyn i weled ynfydrwydd, os nad pechadurusrwydd, yr arferion llygredig oeddent gyffredin yn mhlith y lliaws amlaf o'i gyfoedion, ac yr oedd yntau ei hunan wedi bod braidd ar fin cydymffurfio â hwynt. Eithr o'r dydd hwn allan fe ddarfu â hwynt am byth. Y mae yn wir, a llefaru yn ddynol, y gallasai, wedi hyn, barhau o fewn cylch moesoldeb allanol heb dreiddio i fywyd ac ysbrydolrwydd crefydd yn dufewnol, ond yr oedd y perygl drosodd, ni a dybygem, yn y fuddugoliaeth a ennillasar yn y Ffair, y gwelsid ef byth yn diraddio cymaint arno ei hunan ag i ymdrybaeddu yn mhydewau halogedig chwantau y cnawd megis pe na buasai yn meddiannu natur resymol a moesol. Dygwyd ef y dydd hwn i weled cymmaint o oferedd mwyniant arferion ei gyd-ieuenctyd gwylltion fel nad oedd ganddo well enw i'w roddi, yn mrwdaniaeth ei deimlad, ar y rhai oedd yn ymroddi iddynt, yn ei iaith ddysgrifiadol ef ei hunan na, "hen ffyliaid didoriad."

Nis gallwn ychwaith, wrth fyned heibio, lai na thalu gwarogaeth barchus i bryder a gweddïau ei hen fam yn ei achos y dydd hwn. Gallai rhai dybied ei bod hi yn rhy ofalus, ac yn rhy ofnus, wrth feddwl am ei mab yn myned i'r fath le; ac y mae lle mawr i ofni mai