Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/59

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ychydig mewn cymhariaeth o rïeni crefyddol sydd yn teimlo yn gyffelyb iddi, ac mor ymdrechgar am gadw eu plant o'r fath leoedd, neu am weddïo drostynt, pan yn groes i'w hewyllys hwy y mynont fyned. Ond yr oedd ei henaid hi yn fyw i'r peryglon yr oedd ei mab y diwrnod hwnw yn ei osod ei hunan yn agored iddynt, a gwyddai yn dda nad oedd ond un man am ymwared. Yr oedd yn hen gydnabyddus â'r fan hono. Buasai yn dda iddi, gannoedd o weithiau cyn hyny, dynu yno. Yn ei chyfyngder hi a nesäodd at yr Arglwydd. Ymbiliodd yn daer ger ei fron. Ymdrechodd yn galed am y fendith. Ac ni bu yn aflwyddiannus. Gwrandawwyd ei gweddi. Cafodd nerth gyda Duw a gorchfygodd. Cadwyd ei mab, y dydd hwnw, rhag syrthio yn ysglyfaeth i'r gelyn, a chollodd am byth bob tuedd at wagedd ieuenctyd yr oes.

Buasai yn ddymunol iawn genym allu rhoddi adroddiad manwl a chyson o hanes ei feddwl yn ganlynol i hyn yn y tymhor hwn. Ond nid ydyw y defnyddiau at hyny genym. Y cwbl a wyddom yw, yr ymddangosai o hyn allan fel wedi ei ddifrifoli drwyddo. Ymroddai, gyda diwydrwydd ychwanegol, i'w lafur gyda cherddoriaeth, a darllenai lawer ar y Bibl a llyfrau eraill oeddent yn ei gyrhaedd, ac yn mhob peth, oddieithr yn unig proffes gyhoeddus o grefydd, nis gellid gweled un gwahaniaeth rhyngddo a'r Cristion mwyaf dichlynaidd. Yn fuan ar ol hyn, tua dechreu y ganaf 1818, fe symmudodd i gymmydogaeth Llangernyw, yn agos i Lanrwst, i amaethdŷ o'r enw Cammaes, lle yr oedd ei chwaer Mary, yr hon yn diweddar a briodasai, yn preswylio. Yr oedd canu bywiog iawn y pryd hyny yn eglwys y plwyf hwnw, a thueddwyd yntau, gan y sôn am hyny, i fyned i'r eglwys y Sul cyntaf wedi iddo fyned i'r ardal. Yr oedd efe yn adnabyddus i lawer o' cantorion, trwy glywed am dano, fel un heb ei fath braidd am ganu. Y Sul cyntaf yr aeth i'r Llan fe fu yno ganu annghyffredin yn y gwasanaeth a rhwng y gwasanaeth. Cadwyd i ganu nes yr aeth yn bell ar y nos. Tua 'r diwedd aeth rhai o'r ieuenctyd yn lled gellweirus gyda'u gilydd, yr hyn oedd dra gwrthwynebol i'w feddwl ef, ac a deimlid ganddo yn hollol annghydweddol â chysegredigaeth y dydd, a'r lle, a'r hyn yr oeddent wedi bod gydag ef. Yr oedd rhyw wrthwynebiad yn y bobl dda oeddent mewn cysylltiad à chapel y Cefn Coch i arfer llyfrau tônau yno ar amser yr addoliad, ac felly yr oedd eglwys y plwyf yn ennill lliaws mawr o ieuenctyd y gymmydogaeth o'r Capel, yn neillduol y rhai a