Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/61

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fath briodoldeb yn sylwadau, y pregethwr ieuanc, fel y cafodd ei bregeth argraff annghyffredinol ar feddwl John Jones. Daeth i deimlo pwys cadwedigaeth ei enaid ei hun i'r fath raddau dan ei weinidogaeth, fel y penderfynodd ymroddi yn gwbl yn eiddo i'r Gwaredwr; a phenderfynodd hefyd, yn yr un oedfa, y cysegrai weddill ei oes i bregethu y Gwaredwr hwnw i'w gydwladwyr. Yr oedd, pa fodd bynag, er penderfynu felly, ac er cyrchu yn gyson i'r holl foddion ereill, eto yn parhau heb geisio lle yn nhŷ yr Arglwydd. Ryw nos Sabbath, pan yn myned allan o gapel y Cefn Coch, dywedodd un o hen gyfeillion y lle wrtho, "John Jones, yr ydym yn clywed fod genych ryw fesur newydd rhagorol, gadewch i ninau ei glywed." Y mae yn ymddangos fod amcan neillduol gan yr hen frawd yn hyn heblaw ymgydnabyddu 'r mesur. Aeth gyda'r cyfeillion i dŷ y capel, neu un o'r tai cyfagos, lle y buant, gyda hwyl fawr, yn canu ar y dôn newydd a ddygasai gydag ef o Ddolyddelen, ac a ddysgasid ganddo mewn rhan i gryn nifer yn y Cefn Coch. Y pennill a ganent oedd,

"Wel, dyma'r cyfaill goreu gaed,
Mae' n ganmil gwell na mam na thad,
Yn mhob caledi ffyddlon yw:
Mae' n medru maddeu a chuddio bai,
Ac o'i wir fodd yn trugarhâu
Wrth bechaduriaid gwael eu rhyw."

Ond fel yr oeddent yn canu, deallid fod yr hen bennill yn trin calon y prif gantor. Yr oedd yn hawdd gweled ei fod braidd yn methu myned rhagddo, er yr holl egni a wneid ganddo i gadw ei deimladau iddo ei hun. Yn ei wrthwynebiad i neb wybod yr ymdrech yr oedd ynddo, yn gwbl groes i'w arfer gyffredin, ymddangosai yn awyddus iawn i roddi i fynu y canu. Ond pa fwyaf oedd ei awydd ef am hyny, mwyaf oll oedd awydd un o'r hen frodyr i ail ymaflyd ynddo, ac felly yr oedd yn dyblu ac yn dyblu, a hyny drachefn a thrachefn. Y gwirionedd oedd, fod yr hen frawd Robert Dafydd, Tŷ'n-y-nant, wedi canfod fod hen bennill Morgan Rhys yn ymaflyd codwm â'r cantor ieuanc, ac yr oedd o'i galon yn dymuno gweled y pennill yn cael yr oruchafiaeth, a hyny a barai iddo fod mor egniol i ddal y canu yn ei flaen, er ei bod erbyn hyny yn hwyrhau ar y nos. O'r diwedd rhoed y canu heibio, a llithrodd John Jones yn lled ddistaw o'r tŷ, gan gychwyn rhyngddo a Chammaes. Ond yr oedd y pennill yn ei ddilyn, ac nis gallai mewn