Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/62

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

un modd ymryddhau oddiwrtho. Yr oedd rhywbeth newydd a grymus iawn yn ei deimladau. Yr oedd un neu ddau o'r cyfeillion yn myned yr un ffordd âg ef: ond yr oedd efe yn teimlo eu presennoldeb yn dra annghyfleus iddo. Chwennychai gael bod ei hunan. Ymesgusodai, a thynai oddiwrthynt, er mwyn cael hamdden i syrthio ar ei liniau ar y ddaear i geisio trugaredd, ac i'w daflu ei hunan i freichiau y "cyfaill goreu gaed." Nid ydym yn gwybod pa hyd y bu cyn profi mesur o'r tangnefedd sydd yn Nghrist. Ond yr oedd meddiannu gwir grefydd wedi dyfod erbyn hyn yn brif bwnc ei feddwl, ac ni orphwysodd cyn cael gafael arni. Y mae, pa fodd bynnag, cryn lawer o ansicrwydd yn nghylch yr amser a'r lle yr ymunodd â'r eglwys. Mae y tystiolaethau sydd genym ar hyny yn dra gwahanol i'w gilydd. Mae y cyfeillion cysylltiedig â'r achos yn nghapel y Cefn Coch, Llangernyw yn sicrhau mai yno yr ymunodd â'r gymdeithas eglwysig, ac iddo wneyd hyny y nos Sul canlynol i'r un y cyfeirir ati uchod. Nid ydym yn sicr a oes rhai o honynt yn awr yn fyw ag oeddent yno y pryd hyny, ai ynte adrodd y maent yr hyn a draddodwyd iddynt oddiwrth eu tadau. Pa fodd bynag, y mae eu tystiolaeth hwy yn cael eu gwrthddywedyd yn bendant gan ereill. Y mae ei frawd, y Parch. William Jones, yr hwn sydd yn cofio yr amgylchiad yn dda, yn sicrhau mai yn Nolyddelen yr ymunodd a'r eglwys, ac y bu cryn drafferth ei ddarbwyllo i hyny. Yn ol adroddiad ei frawd, y Parch. W. Jones, yr oedd cyfarfodydd gweddio yn cael eu cynnal y pryd hyny yn fynych gan y plant a'r bechgyn ieuainc, a byddai William Jones a David ei frawd yn cadw cyfarfod gweddio bob nos yn y beudŷ, a elwid, Beudŷ y Ddôl, ar ol swppera yr anifeiliaid, ac weithiau byddai bechgyn ieuainc ereill yn ymuno â hwynt. Ar achlysuron, byddent ar noson oleu lleuad yn darllen pennod, allan ar y ddôl. Yr oedd adfywiad mawr y pryd hwnw ar grefydd yn Ngogledd Cymru, yn neillduol yn Sir Gaerynarfon a Sir Feirionydd, yr hyn a elwid yn "Ddiwygiad Beddgelert," am mai yno y dechreuodd. Cyrhaeddodd yr adfywiad hwnw i Ddolyddelen, ac ymunodd lliaws mawr â'r eglwys yno. Dyna y pryd y dychwelwyd y diweddar Barch. Cadwaladr Owen, ac amryw ereill sydd eto yn fyw yn y gymydogaeth hòno ac mewn parthau ereill o'r wlad. Clybu John Jones, yn Llangernyw, am y Diwygiad; a phenderfynodd fyned i Ddolyddelen er mwyn ei weled, a chyda dymuniad cryf am gael ei hunan rywbeth trwyddo. Pan gartref fel hyn, deallodd fod ei frodyr