Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/63

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn arfer cadw cyfarfod gweddio yn y Beudŷ, neu yn yr Ysgubor, ar ol swppera yr anifeiliaid. Erfyniai yn daer iawn am gael myned gyda hwynt. Yr oeddent hwythau, heb wybod am agwedd ei feddwl nac am y pryder yr ydoedd ynddo yn nghylch achos ei enaid, yn dra anfoddlawn iddo, gan dybied mai ei ddiben ydoedd eu barnu hwy a gwneyd gwawd o'u gwendidau plentynaidd. Ond er iddynt ei wrthwynebu, gan haeru yn ei wyneb nad ydoedd ganddo un amcan da wrth geisio cael myned gyda hwynt, ni fynai efe ei omedd, a sicrhai iddynt ei fod yn hollol ddifrifol a didwyll, ac yn gwbl bell oddiwrth bob tuedd at yr hyn a ddychymygid ganddynt hwy. O'r diwedd, addawsant y cai ddyfod, ar yr ammod fod iddo gymmeryd rhan yn y cyfarfod a gweddïo ei hunan. Addawodd yntau y gwnai ond iddo gael gweddio yn olaf. Hwythau yn parhau i ammheu ei amcan ac yn ofni na byddai iddo weddio o gwbl wedi eu clywed hwy, a gynnygiasant iddo y cai ymuno â hwynt os gweddïai yn y canol—rhyngddynt. Efe a gydsyniodd â hyny. Dechreuwyd y cyfarfod gan William. Yna aeth yntau ar ei liniau, a dywedodd ychydig eiriau yn wylaidd a difrifol annghyffredin, eithr heb arwyddo i'w frodyr unrhyw ddawn neillduol, ond yn hytrach i'r gwrthwyneb. Wedi y cyfarfod, ymneillduodd wrtho ei hunan heb ddywedyd gair am yr hyn a gymerasai le. Llawenychai y ddau frawd wrth weled arwyddion difrifoldeb arno. Yr oeddent erbyn hyn yn hollol sicr o hyny. Gwyddent yn dda nad oedd mor galed a rhyfygus ag y cymerasai arno weddio mewn cellwair i'w boddio hwynt. Daliasant sylw manwl arno, a chaent, wrth sylwi, ei fod yn wastadol yn gweddio. Pan ar ei ben ei hunan, am yr amser y bu yn awr gartref, pa un bynag ai gyda'i waith ai ynte yn cerdded ar y ffordd, gweddïo y byddai yn ddibaid. Yr oedd y trymder oedd ar ei glyw yn fanteisiol i'r rhai a fynent ddal sylw arno, gan y gallent yn fynych nesau ato ac ymwrandaw arno, heb iddo ef wybod oddiwrth hyny. Wedi i'w frodyr gael sicrwydd fel hyn fod trallod mor fawr arno yn nghylch achos ei enaid, cymhellasant ef i ymuno â'r eglwys. Addawodd yntau fyned gyda hwynt. Ond pan ddaeth yr amser, ymesgusodai am y tro hwnw gan addaw y delai i'r cyfarfod canlynol. Daeth adeg y cyfarfod hwnw. Yr oedd yntau yn eistedd ar y settle a'i ben yn lled isel. Dywedwyd wrtho ei bod yn bryd cychwyn i'r cyfarfod. Dywedodd yntau nas gallai ddyfod y tro hwnw, ond y deuai yn sicr y tro nesaf. Dywedodd ei frawd William wrtho y byddai yn well iddo ddyfod y