Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/64

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pryd hwnw, rhag na chaffai gynyg ar gyfleusdra byth ond hyny;—y gallai angau ei ddal cyn y cyfarfod canlynol. Ar hyny, fe gododd ar ei draed gyda phrysurdeb, ac a ddywedodd y deuai. A chafodd yno, fel y gallesid ddysgwyl, y derbyniad mwyaf calonog. Cyfryw ydyw sylwedd yr adroddiad a roddir gan ei frawd y Parch. Wm. Jones, yn nghylch ei ymuniad â'r eglwys: ac y mae mor fanwl ac amgylchiadol—hyd yn nod at y settle, lle yr eisteddai-fel y mae yn dwyn ar ei wyneb argraff gwirionedd.

Mae yr adroddiad hwn yn cael ei gadarnhau, yn ei brif linellau, gan Mr. William Owen, Penbrynmawr, Llanllyfni, yr hwn a rydd yr hyn a ganlyn fel crynhöad o'r hyn a glywodd lawer gwaith, o bryd i bryd gan John Jones ei hunan:—" Yr oeddwn," meddai, "yn Llangernyw pan yn ieuanc. Gwahoddwyd fi i Eglwys y plwyf i ddysgu iddynt ganu. Ymddygodd rhai o honynt yn ysgafn a chellweirus, nes aeth fy meddwl yn anfoddlawn i fyned yno. Cefais wahoddiad eilwaith i fyned i'r capel i'w dysgu i ganu. Yr oeddwn wedi dysgu iddynt fesur ar y pennill hwnw,

"Wel, dyma'r cyfaill goreu gaed."

Ac un nos Sabbath, wrth ganu y rhan olaf o hono, yr oedd yn gorchfygu fy nheimladau nes peri i mi wylo, yn enwedig y geiriau,

"Ac o'i wir fodd yn trugarhau
Wrth bechaduriaid gwael eu rhyw."

Yr oedd yr hen flaenor wedi dysgu y mesur fel ag i allu ail ddechreu; ac yn sylwi arnaf fel yr oedd y pennill yn effeithio arnaf. Buasai yn dda iawn genyf pe buasai yn tewi, o herwydd nid oeddwn yn ewyllysio i neb fy ngweled yn wylo. Ar ol darfod y cyfarfod gweddio, yr oedd yn rhaid i mi fyned i dŷ y capel, fel y gallent dreio fy ngorphen. Wrth fyned adref gyda Mr. Robert Evans, yr oedd yn galed iawn arnaf, ac yr oeddent hwythau yn deall hyny. Aethum dros y clawdd i'r maes i dreio gweddio, gan ddysgwyl y buasent yn fy ngadael. Ond aros am danaf a wnaethant. Ar ol cyrhaedd y tŷ, bu raid i mi ganu iddynt drachefn. Cefais fyned i orphwys ryw bryd, ond yr oedd yn mhell iawn ar y nos, neu yn hytrach y boreu. Cyn i mi godi boreu Llun, dyna y porthwr yn gwaeddi arnaf, yr hwn oedd wedi dyfod o Ddolyddelen y boreu hwnw, "John, y mae genyf newydd i'w hysbysu