Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/65

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i ti. Mae diwygiad wedi tori allan yn Nolyddelen. Yr oedd Cadwaladr Owen, dy gefnder, yn gwaeddi—na chlywaist ti erioed y fath beth. Ni welodd hen bobl Dolyddelen erioed y fath beth a neithiwr: Codais," meddai, "yn ddioed a phenderfynais fyned adref ar unwaith. Ac adref y daethum. Gwnaethant gyfarfod canu yn groesaw i mi y noswaith y daethum adref. Yr oeddent yn canu Anthem nadolig, a'm brawd William yn canu bás (bass): ac wrth ddyblu y gair "Ceidwad," drosodd a throsodd, cododd Cadwaladr Owen o'r tu draw i'r bwrdd, gan ddechreu gwaeddi, Mi ddyweda' I Ceidwad i bwy ydyw,' ac i orfoleddu yr aethant gyda'u gilydd. Aethum innau a William Owen ("brawd Cadwaladr Owen") at fy ewythr John Jones y Llan, i ymddiddan âg ef. Tuag unarddeg ar y gloch, dywedodd William Owen wrthyf, 'Mi a af atynt i dreio eu perswadio i dewi rhag iddynt wneuthur rhyw niwed iddynt eu hunain.' Aethum innau cyn pen ond ychydig amser ar ei ol. Ond mi welwn William Owen a'r tân wedi cydio ynddo yntau, ac yn gwaeddi mor wyllt a neb o honynt.

"Ar ol dyfod adref, yr oeddwn yn eu clywed yn dywedyd fod Dafydd, fy mrawd, yn gweddio yn rhagorol. Nid oedd Dafydd y pryd hyny ond bachgen ieuanc. Yr oedd arnaf awydd mawr iawn am ei glywed. Ond ni chawn, os na ddeuwn gydag ef a William, fy mrawd, i gadw cyfarfod gweddio yn y beudŷ oedd encyd oddiwrth y tŷ. Er mwyn clywed Dafydd, mi a aethum gyda hwynt, a threiais weddio. Ar ol hyny, dywedodd yr hogiau, Mae John wedi bod gyda ni yn gweddio.' Yr oeddwn yn gweled wedi hyny nad oedd dim i'w wneyd ond myned i'r society: a myned a wnaethum yn bechadur mawr; a chefais dderbyniad cynhes ganddynt." Dyma yr adroddiad a roddir gan Mr. William Owen, fel yr argraff ar ei feddwl ef, o'r hyn a ddywedwyd wrtho gan Mr. Jones ei hunan. Fe welir ei fod yn amrywio i ryw raddau oddiwrth yr adroddiad a gafwyd o Langernyw yn nghylch yr hyn sydd sicr a gymmerodd le yno; a'i fod yn amlwg yn cytuno yn well â'r adroddiad a roddir gan ei frawd, y Parch. William Jones, mai yn Nolyddelen y cynnygiodd ei hunan drachefn i'r eglwys, nag â'r hyn a ddywedir gan gyfeillion y Cefn Coch, mai yno yr aeth gyntaf. Yr hyn sydd yn ymddangos i ni fel y dull tebycaf i gysoni y ddau adroddiad yw, ei fod wedi myned, ar ol y nos Sul yr oedd yn y fath deimladau wrth ganu yn y capel ac yn y tŷ yn Cefn Coch, i Ddolyddelen, wedi clywed am y Diwygiad a dorasai allan yno, ac iddo ymuno â'r eglwys