Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/66

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yno yr wythnos hono, neu yn hytrach yr wythnos ganlynol. Dichon iddo ddychwelyd i Langernyw erbyn yr ail Sul—ac, fe allai, heb yr un papur gydag ef i arwyddo ei fod wedi cynnyg ei hunan, a chael derbyniad ar brawf, y fath yn ddiammheu ag a gawsai yn Nolyddelen;—ac, yn ganlynol, pan daeth i'r Cefn Coch, er ei fod wedi bod o'r blaen yn Nolyddelen, fod y cyfeillion braidd yn edrych arno fel yn cynnyg ei hunan iddynt y tro cyntaf. Mwy tebyg felly ydyw mai yn mhen y pythefnos, ar y lleiaf, ac nid yn mhen wythnos, fel yr adroddir oddi yno, yr ymddangosodd gyntaf yn eu plith hwy yn y gymdeithas eglwysig. Dyma yr eglurhad goreu y gallwn ni, ar hyn o bryd, feddwl am dano, er cysoni y tystiolaethau hyn â'u gilydd. Pa fodd bynag, yr ydym yn eu dodi ger bron ein darllenwyr megis ag y daethant i'n dwylaw ni, gan adael iddynt naill ai derbyn yr eglurhad a gynnygiwyd genym ni ar eu cysondeb, neu feddwl am ryw un gwell iddynt eu hunain. Ond pa beth bynag am y lle yr ymunodd â'r eglwys, y mae yn sicr iddo wneuthur hyny y tymhor hwn, ryw bryd yn ngwanwyn,—cyn mis Mai beth bynag,—y flwyddyn 1819, ar ol iddo fod am ychydig lai na thair blynedd allan o honi. Yn ngofal grasol a manwl y Duw mawr am dano, fe'i cadwyd yn yr ysbaid hwnw yn gwbl rhag ymlygru gydag arferion cyffredin y wlad, a rhag gwneuthur dim a allasai anurddo ei gymeriad yn mhlith ei gymydogion. Ac nid hyny yn unig, ond fe'i cadwyd hefyd rhag ymbellhau oddiwrth foddion gras, a rhag esgeuluso cynnulliadau cyhoeddus crefydd. Cyrchai yn gyson iddynt oll, oddieithr cyfarfod yr eglwys yn unig, ac ymddangosai ynddynt bob amser yn astud a difrifol, ac fel un yn ymofyn â Duw ynddynt. Tra y bu yn y byd, yr oedd yn hawdd canfod arno ei fod fel creadur allan o'i elfen a'i enaid ynddo heb un esmwythder. Nis gallai gydymffurfio â'i agweddau na mwynhau ei ddifyrwch, na chael yn un màn orphwysfa i wadn ei droed, nes dychwelyd eilwaith i'r arch. Erbyn iddo droi yno, yr oedd llïaws yn estyn eu dwylaw i'w gymmeryd a'i dderbyn i mewn gydag awyddfryd a diolchgarwch, er nad oedd neb o honynt yn gallu rhagweled yr elfenau nerthol oeddent ynddo a'r defnydd mawi y bwriadai yr Arglwydd ei wneuthur o hono.