Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/67

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD IV.

O'I YMUNIAD A'R EGLWYS HYD NES Y DECHREUODD BREGETHU: 1819—1821.

Ymgysegriad i grefydd—Teimladau cryfion—pryder yn nghylch ei frawd Richard— ei dröedigaeth ef—llawenydd y Fam—cynnydd amlwg John Jones mewn doniau gweddi—awydd mawr am Bregethu—myfyrdod diball ar wirioneddau yr Efengyl— gweithio ar ffordd Capel Curig—pregethu wrth gerdded—pregethu yn Nant y Tylathau—pregeth hynod yno—anmharodrwydd i ddatgan ei awydd—cael ei gymhell o'r diwedd at y gwaith—ei Bregeth gyhoeddus gyntaf

Y mae JOHN JONES unwaith eto yn nhŷ yr Arglwydd, yn ofidus ei galon oherwydd iddo erioed ei adael, ac yn benderfynol i aros ynddo byth mwy. Ond nid digon ganddo bellach oedd cael lle yno ac aros yno ryw fodd; teimlai fod y broffes yr ymgymerasai â hi yn ei ddodi dan rwymedigaethau newyddion i fywyd duwiol, a gwnaeth ei feddwl i fynu i ymgysegru yn gwbl i grefydd. Darllenai lawer ar y Bibl, myfyriai lawer ar bethau dwyfol, ac yr oedd yn treulio llawer o amser mewn gweddiau gyda Duw. Yr oedd yn gyson yn yr holl foddion yn y capel yn y Cefn Coch, ac yn enwedig yn ymroddedig iawn gyda'r canu. Ond ni ddeallodd y cyfeillion yno, y tymhor hwnw, fod dir arall hynod ynddo oddieithr ei ddifrifwch gwastadol. Mae yn bosibi fod ei sefyllfa yn yr eglwys yn cadw ei ddoniau, y pryd hyny, yn gwbl o olwg ei gyfeillion, fel yr oedd pa ragoriaethau ereill bynnag a allent fod ynddo yn guddiedig rhagddynt. Yr oedd y pryd hyn, weithiau, dan, deimladau dwysion iawn oddiwrth bethau crefydd, yn gymmaint felly. fel ag y gwelid ef yn methu ymattal rhag wylo yn hidl yn y pregethau, ac mewn cyfarfodydd gweddio, ac yn yr addoliad teuluaidd gartref. Unwaith fe'i gwelwyd wedi colli pob meddiant arno ei hunan, ac yn tori allan i waeddi mewn gorfoledd. Yr oedd hyny tra yr oedd gartref, ar yr ymweliad â Dolyddelen, y pryd yr ymunodd â'r eglwys. Ryw noswaith, yr oedd ei frawd ieuengaf, David, yn myned trwy was-