Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/69

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aethwr yn Llanrhochwyn, hen lanc o'r enw John Williams, lle y bu yn aros am flynyddau. Gan ei fod yn mhell oddicartref, ac yn naturiol o dymher fywiog a chwareus, ymollyngodd yn mhell gyda'i gyfoedion ieuainc i wamalrwydd. Ciliodd o'r eglwys yn fuan wedi gadael ei gartref, ac yr oedd yn ymddangos yn prysuro i ymsefydlu mewn gwylltineb ac annuwioldeb, gan geisio gweithio ymaith bob argraff grefyddol oddiar ei feddwl. Ond yn amser y Diwygiad mawr yn Nolyddelen, ac wedi i'w frawd John ymuno â'r eglwys, daeth Richard adref ryw nos Sadwrn i ymweled â'i deulu, gan aros yno hyd foreu Llun. Yr oedd cyffro dirfawr yn y Capel y Sabbath hwnw, ond nid oedd neb wedi sylwi fod un arwydd o unrhyw effaith ar feddwl Richard. Cyn cychwyn yn ol, bore ddydd Llun, dygwyddodd dyngu yn nghlyw ei frawd John. Ar hyny dechreuodd John ei argyhoeddi yn llym iawn o ddrwg y pechod o dyngu, gan ofyn iddo yn ddifrifol a chyda theimlad dwys, "pa beth oedd yn feddwl am ei fater tragywyddol; fod pawb o'r teulu yn meddwl am eu heneidiau ond efe; pa beth oedd yn feddwl am weddïau eu tad drostynt; ai am wneuthur gwawd yr ydoedd o'i weddiau taerion yn eu hachos;" a llawer o bethau i'r un ystyr. Aeth ei eiriau i galon Richard. Newidiodd yn hollol o hyny allan. Ar ol iddo gyrhaedd i Lanrhochwyn gwelid cyfnewidiad amlwg arno. Llwyr beidiodd â'r digrifwch a'r cellwair yr oedd o'r blaen mor dueddol iddynt, a throes i ddarllen ei Feibl, a sylwid ei fod yn fynych yn ocheneidio yn ddwys, yn enwedig pan ar ei ben ei hun. Aeth ei feistr, yr hwn a edrychai arno megis plentyn iddo, i drallod mawr yn ei gylch, gan fethu gwybod pa beth a allai fod arno. Holai ef yn fynych am achos ei drallod: a oedd yn wael ei iechyd, neu mewn rhyw brofedigaeth, neu a oedd rhyw un wedi gwneuthur rhywbeth yn ei erbyn. Nid oedd ei feistr y pryd hwnw yn gwybod ond ychydig am grefydd, ac yr oedd Richard o feddwl tra uchel, ac wedi bod yn hynod o gellweirus, fel yr oedd arno braidd gywilydd i neb feddwl ei fod mewn trallod yn nghylch ei enaid. Ac felly ymdrechai i edrych yn siriol yn ngwydd ereill. Yn mhen dwy neu dair wythnos daeth i Dan-y-Castell drachefn, i edrych am ei deulu, ar brydnawn Sadwrn, fel y gallai gael treulio y Sabbath gartref. Deallwyd ar unwaith yn y teulu fod rhyw gyfnewidiad mawr arno, er nad oedd eto wedi dywedyd dim yn nghylch trallod ei feddwl. Ceisiai edrych yn siriol megis cynt, ond nis gallai ei lygaid beidio a gollwng allan arwyddion o bryder a sobrwydd ei galon. Ond wrth fyned i'r