Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/7

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD.

Fe ddisgynodd y gwaith hwn i'm dwylaw i yn gwbl annysgwyliadwy genyf, a chydâ hwyrfrydigrwydd mawr yr ymgymmerais âg ef. Y mae yn ddrwg genyf fod rhyw amgylchiadau, nad oedd genyf fi un lywodraeth arnynt, wedi peri oediad am gyhyd o amser ar ei gyhoeddiad, oediad mor faith fel y mae llïaws o'r rhai a fuasent yn cymmeryd y dyddordeb mwyaf ynddo wedi myned yn rhy bell i hyny, ac oes arall agos wedi cyfodi nad ydynt yn cofio dim am ei brif wrthddrych. Pa fodd bynnag, megis ag y mae, y mae o'r diwedd wedi ei orphen; a dichon y gall yr awdwr ddywedyd, fel y dywedodd Calvin yn y Rhagymadrodd i un o'r argraffiadau o'i "INSTITUTIO,"—"Maluissem equidem citius, verum sat cito si sat bene"; "Buaswn yn dymuno iddo ymddangos yn gynt, ond y mae yn ddigon buan os yw yn ddigon da." Y mae y gwaith wedi cymmeryd llun tra gwahanol i'r hyn a amcenid genyf pan yn dechreu arno, yn enwedig yn yr Hanes helaeth a roddir ynddo am y Dadleuon Duwinyddol yn ein gwlad ein hunain ac mewn gwledydd ereill. Y mae rhai yn golygu y sylwadau ar y dadleuon hyny fel y pethau mwyaf dyddorol yr yr holl waith, tra y mae ereill yn tybied mai camgymmeriad mawr oedd ymyraeth â hwynt. Yr wyt yn enwedig yn deall fod rhai o'r sylwadau, ag y teimlwn yn angenrheidiol eu gwneuthur yn yr adolygiad ar Ddadleuon Cymru, wedi peri cryn archoll i deimladau perthynasau a chyfeillion rhai o'r gwŷr ag y cyfeirir atynt. Y mae yn ymddangos fod cyfeillion "Edeyrn, Mon," yn arbenig, yn teimlo fod cam mawr wedi ei wneuthur âg ef yn yr Hanes. Gan fy mod yn berffaith ymwybodol nad amcenais wneuthur y cam lleiaf âg ef, a'm bod yn dra awyddus am iddo gael pob amddiffyniad a ellir wneyd iddo, dichon nas gallaf wneuthur yn well nag argraffu y