Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/70

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwely ar y nos Sabbath, torodd yr argae. Yr oedd dau wely yn yr un lofft, a John a Richard yn myned i'r naill, a William a David yn myned i'r llall. Yr oedd drws yn arwain i lofft arall, yr hon oedd uwch ben yr ystafell lle yr arferai y fam gysgu. Wedi i'r pedwar brawd fyned gyda'u gilydd i'r llofft aethant ar unwaith ar eu gliniau. Yn mhen rhyw ysbaid cododd William a David oddiar eu gliniau, a gwelent John eto ar ei liniau a Richard yn rhoddi ei ben yn ei ymyl i wrandaw arno. Yn ddiarwybod, dybygid, iddo ei hunan, deuai geiriau John yn ddealladwy. Yr oedd yn gweddïo dros ei frawd Richard, ac yr oedd y weddi yn cael effaith ryfeddol arno yntau. Dechreuodd wylo a chrynu, ac ymwingo. O'r diwedd cododd i fynu, a neidiodd â'i holl egni ar hyd y ddwy lofft, heb ddywedyd un gair. Edrychai ei frodyr arno braidd mewn dychryn, gan ei fod yn ymddangos fel dyn gwallgof. Ar hyny, daeth eu mam i fynu y grisiau, wedi clywed y trwst arswydus, fel pe buasai y tŷ yn dyfod i lawr, a chyda ei bod yn y cyrhaedd, dywedai mewn cyffro, "Fechgyn, fechgyn, ai chwareu yr ydych ar nos Sul?" gan y gwyddai fod Richard gynt yn dra thueddol i chwareu a digrifwch. Clywodd Richard eiriau ei fam, y rhai oeddent yn taraw yn uniongyrchol ar ei ymddygiadau blaenorol, ymddygiadau oeddent erbyn hyn yn ofid calon iddo. Yn y fan gwaeddodd allan, fel dyn wedi llwyr-ddyrysu, "Oh! beth a wnaf? beth a wnaf am fy mywyd ? Oh! bobl anwyl! fy mywyd i! fy mywyd i! Oh! beth a wnaf? mae fy enaid yn golledig !" Ar hyny prysurodd ei fam i fynu ato fel yn methu dyfod yn ddigon cyflym, wedi ei gorlenwi â syndod ac â llawenydd. Cymerodd ef yn ei breichiau, a dechreuodd ei ymgeleddu. Yr oedd y pryd hwnw yn llawer mwy galluog nag yr un o'i meibion i gyfarwyddo pechadur dan argyhoeddiad, yn fwy hyddysg yn yr ysgrythyrau, ac, yn neillduol, yn llawer mwy profiadol. Yr oedd y pryd hwn, fel o dan ysbrydoliaeth yr amgylchiad pwysig, yn wir fedrus yn dwyn yn mlaen adnodau o air Duw i'w gynnal rhag anobeithio, a thraethai yn felus am addasrwydd trefn yr efengyl ar gyfer angen pechadur, a pharodrwydd yr Arglwydd i dderbyn enaid edifeiriol. Dywedai wrtho mewn hwyl orfoleddus, ac yn dra effeithiol,—" Yr oeddwn yn ofni llawer am danat ti, fy machgen anwyl, ond dyma fy ngweddiau trosot wedi eu gwrando. Dyma hen weddïau taerion dy dad yn cael eu hateb. Meddyliais lawer gwaith am y gair a ddywedodd wrthyf ychydig cyn marw, Fe gei di weled y rhydd yr Arglwydd