Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/71

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ras i fy mhlant i; y mae wedi dywedyd wrthyf y gwna hyny.' Dyma ei eiriau wedi eu cyflawni. Mae y cwbl yn nhŷ yr ymgeledd onid tydi; ac y mae genyf yn awr hyder cryf am danat tithau; Bendigedig, Bendigedig, fyddo Duw. Oh! nad allwn garu yr Arglwydd yn fwy gwresog, ac ymddiried ynddo yn fwy llwyr. Pa fodd y gallaf ganmol digon arno? Moliennwch yr Arglwydd gyda mi. Pwy a all dewi? Onid oes achos? Rhaid oedd llawenychu, oblegyd dy frawd hwn oedd yn farw, ac a fu golledig ac a gafwyd.'" Yn y cyfryw ymadroddion y rhoddai allan deimladau angerddol a chyffrous ei chalon. Noson ryfedd oedd y noson hono. Tystia Mr. David Jones fod yn anmhosibl ei darlunio, ac nas gall byth ei hannghofio. Clywodd y chwaer henaf, yr hon oedd wedi priodi, ac yn byw yn y tŷ agosaf, o dan yr un tô, y cynnhwrf, a chyfododd y teulu yno o'u gwelyau, a daethant i fynu i'r wledd, yr hon oedd megis gwledd ar ddydd uchel ŵyl neu wledd Jubili, pan oedd y caeth yn myned yn rhydd. Bu y teulu yn llawen am oriau, ac yn enwedig ymddigrifent yn ngorfoledd y fam, ac wrth ei chlywed yn bendithio yr Arglwydd mor wresog a hyawdl. Y holl amser hwn yr oedd John Jones a'i ddau frawd ieuengaf yn chwerthin ac yn wylo bob yn ail, ac yn fynych yn gymmysg a'u gilydd, ac yn methu ymattal heb waeddi hwythau, Bendigedig, yn lled aml. Ei frawd ei hun oedd fel hyn, dybygid, y cyntaf y bu y Parch. John Jones yn foddion ei droedigaeth, a hyny cyn iddo feddwl, fe allai, yn bennodol am gynnyg ei hun i'r weinidogaeth.

Yn nechreu y gauaf canlynol (1819) fe ddychwelodd at ei chwaer i Gammaes, ac at ei gyfeillion crefyddol yn y Cefn Coch, ac nid hir y buant heb ddeall a theimlo ei ragoriaethau. "Yr oedd,"—medd rhyw un o'r gymmydogaeth hono na chawsom ni ei enw,— "Yr oedd blodeuyn ei ddawn yn dechreu ymagor, ac awelon y diwygiadau Methodistaidd yn cario ei arogl paradwysaidd dros holl fynydd tŷ yr Arglwydd. Pan ar ei liniau yn y cyfarfodydd gweddïo, yn yr addoldy ac mewn gwahanol dai yn y gymmydogaeth, mynych yr ymaflai mewn swp o rawn yr hen gyfammod, gan ei wasgu mor ffyddiog nes y byddai y gwin nefolaidd yn rhedeg i eneidiau yr addolwyr, nes y byddent fel tyrfa yn cadw gŵyl. Mynych y gwelwyd ef ar ei liniau yn dadleu "haeddiant pen Calfaria" a "rhinweddau'r aberth mawr am fywyd yr euog, a'r lliaws o'i amgylch mewn hwyl orfoleddus yn neidio ac yn molíannu; a chan y byddai y lle, weithiau, yn dygwydd bod braidd