Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/72

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn gyfyng, byddai y neidwyr yn gwneyd sarn o goesau y gweddiwr; ond sarnent hwy a fynent ni ollyngai John ei afael. Yr oedd yn amlwg y pryd hyny, oddiwrth ei ddawn neillduol pan ar ei liniau, ei fod yn bregethwr ar unwaith, ac nid yn bregethwr cyffredin." Yr oedd yn cael y fath brofiad dwfn a dwys yn ystod y gauaf hwn o addasrwydd trefn yr efengyl ar gyfer ei amgylchiad ei hunan fel pechadur colledig, a'r fath hyfrydwch yn yr ymarferiad ag ordinhadau yr efengyl yn bersonol, yn deuluaidd, ac yn gynnulleidfaol, fel y daeth y lle a'r cyfeillion rhai o'r hen frodyr yno yn neillduol—yn gysegredig tra y bu byw yn ei deimladau, a mynych yr adgofiai yn ei ymddyddanion, ac weithiau yn ei bregethau, am y pethau nerthol a deimlasid ganddo yn y Cefn Coch. Yn nechreu yr haf canlynol (1820), fe ddychwelodd drachefn o Langerniw i'w gartref yn Nolyddelen, er llawenydd mawr i'w deulu ac i'r cyfeillion crefyddol yn y lle. Yr oedd y cantorion, yn enwedig, yn ei groesawu gyda sirioldeb annghyffredin, gan gynnal cyfarfodydd canu yn arbenig er mwyn hyny, heb ddeall fod peth arall yn awr wedi dyfod yn uwch ac yn bwysicach yn ei feddwl ef. Ond yr oedd pregethu erbyn hyn wedi cael llywodraeth hollol arno, ac yr oedd yn teimlo ei hunan dan angenrheidrwydd, i'r hyn a osodasid ganddo yn brif amcan ei fywyd, i ddefnyddio pob hamdden a gaffai er ceisio, goreu y gallai dan ei amgylchiadau, ymgymhwyso i'r gwaith mawr. Yr oedd y cymhelliadau a deimlid ganddo i bregethu yn yr wythnosau hyny yn nodedig o gryfion, fel mai gorchest fawr iddo oedd peidio gwneuthur y peth yn hysbys i'w gyfeillion crefyddol. Yr oeddent oll yn canfod arwyddion amlwg fod crefydd yn dwysau yn ei feddwl, ac yr oedd yn hawdd i'w frodyr yn enwedig weled ei fod yn ymroddedig i fyfyrdodau ar ei gwirioneddau mawrion hi; oblegyd, pa bryd bynnag y byddai o'r neilldu wrtho ei hunan, yr oeddent yn deall ei fod, ac yn fynych, yn ddiarwybod iddo ef, yr oeddent yn ei glywed yn siarad wrtho ei hunan am y gwirioneddau hyny. Yn fuan wedi dychwelyd i Ddolyddelen ddechreu yr haf hwn fe aeth i weithio i Gapel Curig ar ffordd fawr newydd Caergybi, gan fyned adref bob nos Sadwrn, ac yn fynych yn amlach. Ychydig hwyrach o'r miloedd Methodistiaid sydd wedi bod o bryd i bryd yn teithio ar y ffordd hono, sydd yn gwybod fod John Jones wedi bod am dros flwyddyn o amser yn gweithio yn galed arni, yn mhlith dynion, liaws o honynt, hollol ddifeddwl am y pethau yr oedd ei fryd ef yn benaf arnynt, a'r cwbl o honynt, o ran hyny, yn troi mewn