Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/73

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

byd meddyliol tra gwahanol i'w eiddo ef. Bydd dyddordeb newydd o hyn allan, nid ydym yn ameu dim, i filoedd o'n cyd-wladwyr yn y darn ffordd rhwng Capel Curig a Llyn Ogwen, wrth gofio fod un o'r meddylwyr cryfaf ac un o'r pregethwyr galluocaf, a fagodd Cymru erioed, wedi bod am dros flwyddyn o amser yn gweithio yn galed arni, pan yr oedd ei ysbryd yn berwi mor angerddol mewn awydd am bregethu Iesu Grist i'w gyd-dynion. Cyfeiriasom uchod ato yn siarad wrtho ei hunan pan o'r neilldu ar wirioneddau yr efengyl. Adegau a ystyrid ganddo yn fanteisiol iawn i hyny oeddent, pan yn myned ac yn dychwelyd o'i gartref ei hunan at ei waith. Gofalai yn wastadol am gerdded wrtho ei hunan, fel y caffai hamdden i fyfyrio. Yn y gauaf cychwynai i'w daith, ar foreu Llun cyn y dydd, dros y mynydd, ar hyd llwybr diffaeth, a thrwy fawnogydd gwlybion. Gofalai bob amser am fyned yn ddigon boreu, fel y caffai y mynydd, mewn cymhariaeth, iddo ei hunan. A byddai yn wastad yn pregethu ar hyd y ffordd, yn yr ysbryd mwyaf gwresog, oddiar feddwl yn llawn myfyrdod. Yr oedd hen ŵr cryf a synwyrol yn byw yn mhentref Dolyddelen, ac yn gweithio yntau, y pryd hwnw, yn Nghapel Curig. Wrth fyned dros y mynydd cyn dydd, ryw foreu Llun, clywai ryw swn, a gwelai ryw beth tebyg i ddyn yn myned o'i flaen. Ymroddodd i gerdded ei oreu gyda'r amcan o'i ddal, a rhedodd am ysbaid ar ei ol. Ond nis gallai gyrhaedd yn ddim nes ato. Yr oedd y drychiolaeth a'r swn yn myned yn mlaen can gynted ag yntau, ac yn ymddangos fel yn gofalu am gadw yr un pellder rhyngddynt a'u gilydd. Boreu y Llun canlynol, drachefn, cafodd yr hen ŵr weledigaeth gyffelyb yn yr un lle. Yr oedd yn clywed y sŵn, ac yn gweled y llun yn myned o'i flaen yn debyg i ddyn, ond methu ganddo er ymdrechu a nesau ato y tro yma hefyd. Dygwyddodd hyn amryw weithiau. O'r diwedd penderfynodd mai ysbryd ydoedd. Er fod yr hen ŵr yn mhell o fod yn ofergoelus, ac yn cael ei gydnabod yn gyffredin yn un pur gall a geirwir, yr oedd yn awr wedi credu iddo weled drychiolaeth. Ymddiddanai am dano wrth ei gyfeillion yn hynod o sobr ac yn dra difyrus, gan dynu darluniad o'i ymddangosiad, a cheisio dynwared y sŵn a wneid ganddo. Felly fe aeth y gair allan fod rhyw ysbryd yn ymrithio yn y lle hwnw. Pan glywodd John Jones y chwedl, fe addefodd wrth ei frodyr mai efe oedd y drychiolaeth hwnw ar y mynydd, ond gan eu rhybuddio i beidio yngan gair wrth neb. Dywedai ei fod yn fynych wedi gweled rhyw un yn dyfod