Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/74

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar ei ol, ac yn ymddangos fel yn ceisio ei oddiweddyd, ond byddai yn gofalu am gadw yn ddigon ar y blaen arno, fel y gallai gael ychydig hamdden i fyfyrio, am fod yn anhawdd gwneyd dim o hyny yn y gwaith lle yr oedd cymmaint o siarad a chellwair.

Awydd pregethu oedd yn llenwi ei feddwl ddydd a nos yr holl amser hwn. Ond ryw fodd cadwai y cwbl iddo ei hun. Ni ddywedai air o'i drallod wrth neb, ac ni chyfeillachai nemawr âg un dyn. Nid oedd odid neb y pryd hyny yn ardal Dolyddelen na'r amgylchoedd, adnabyddus iddo ef, a allai gydymdeimlo âg ef yn y tywydd yr oedd ei feddwl ynddo, neu fod o nemawr gymhorth iddo yn y myfyrdodau yr ymhyfrydai gymmaint ynddynt. Nid oedd ganddo felly ond syrthio arno ei hunan, ac, hyd y gallai, ymneillduo wrtho ei hunan. Wedi dyfod adref o Gapel Curig, ar brydnawn Sadwrn, holai yn fanwl am amgylchiadau y teulu a'r tyddyn, ac ymddangosai yn fywiog a siriol. Ond ni pharhai yr ymddyddan yn hir. Ar ol bwyta ai i fynu i'r cau uchaf, i Nant y Tylathau, rhyngddo a'r mynydd a elwir Moel Siabod, o gylch milltir o ffordd oddiwrth unrhyw dŷ annedd. Yr oedd yno Geunant a thorlan yn taflu drosodd ar lan yr afon, ac yn y Ceunant hwnw, o dan y dorlan hono, yr arferai am amser maith fyfyrio a gweddio a phregethu. Ni ddychwelai adref hyd yn hwyr ar y nos. Ac wedi dyfod i'r tŷ, ni siaradai nemawr air oddieithr fod rhyw un dieithr i mewn. Ymddangosai bob amser, wedi dyfod i lawr o'r Cae uchaf, a golwg sobr a difrifol iawn arno. Yr oedd rhyw gysegredigrwydd yn ei wedd, ac awdurdod yn ei edrychiad, ag a barent fath o orchwyledd ar y teulu, fel ag i'w hattal rhag dywedyd gair wrtho, na bod yn rhydd iawn i siarad llawer hyd yn nod â'u gilydd yn ei ŵydd ef. Eisteddai yn ddistaw; cauai ei lygaid; byddai â'i feddwl yn llawn gwaith; ac os dygwyddai rhyw ymddyddan o duedd i dynù ei sylw, ac attal ei fyfyrdodau, deallid yn fuan, ar dröad ei lygad, ei fod yn ewyllysio cael llonyddwch. Cyfodai weithiau ac elai allan o'r tŷ yn y nos, wrtho ei hunan; a hyny, yn ol tybiaeth ei frodyr a'r teulu, er gwneyd prawf â'i lais o'r hyn y byddai wedi bod yn meddwl am dano. Nid oedd eto wedi dechreu rhoddi dim o'i fyfyrdodau mewn ysgrifen. Ychydig iawn o lyfrau oedd ganddo, a phrin y gwelid ef un amser yn darllen nemawr lyfr ond ei Fibl. Ond yr oedd y Bibl wrth ei law yn wastadol; ac ar ganol myfyrdod dystaw, troai ato yn ddisymwth, gan chwilio am ryw adnod neu adnodau yn dal perthynas â'r mater fyddai ganddo dan ei sylw, ac yn