a'i dueddiadau, o'i enau ef ei hunan, yn adnabyddus iddynt. Bellach, yn ddioed, penderfynasant fod iddo gael pregethu y cyfleusdra cyntaf. Nid oedd y peth eto wedi bod ger bron yr eglwys, ac nid oedd Rheolau neillduol eto wedi cael penderfynu arnynt tuag at alw un i'r gwaith cyhoeddus. Yr oedd cyfarfod gweddïo wedi ei gyhoeddi i fod y nos Sabbath canlynol mewn tŷ yn mlaen y plwyf a elwid y Garnedd. Yr oedd cryn son wedi myned allan trwy yr ardal yn flaenorol am dano ef, ei fod yn arfer pregethu wrtho ei hunan yn Nant y Tylathau, gan fod amryw o bryd i bryd wedi myned, pa un bynnag ai yn fwriadol ai yn ddamweiniol, i'w gyrhaedd i'w glywed. Yr oedd ei frodyr, William a David, wedi bod amrywiol weithiau yn ei wrandaw yn y lle hwnw, ond yn hollol ddiarwybod iddo ef. Yr oeddent hwy, pa fodd bynnag, wedi cadw y peth yn gwbl iddynt eu hunain heb ei ddadguddio i neb oddieithr eu mam. Buant unwaith, ar wlaw mawr, eu dau yn gorwedd dan geulan mewn lle gwlyb, rhag iddo ef ddygwydd eu gweled, yn ei wrandaw yn pregethu gyda grymusder ofnadwy. Dyna yr unig dro y buant mor ffodus a chael y bregeth ar ei hyd. Yr oedd yn mhob modd fel pe buasai yn cyfarch cynnulleidfa. "Mae y geiriau," meddai, "sydd ar fy meddwl i'w darllen i'w gweled yn llyfr Job, y nawfed bennod, a'r bedwaredd adnod yn y bennod: Y mae efe yn ddoeth o galon, ac yn alluog o nerth: pwy a ymgaledodd yn ei erbyn ef, ac a lwyddodd?';" ac yna yn myned dros y testyn drachefn, mewn llais ychydig uwch a chliriach, yn gwbl fel pe buasai mewn capel. Wedi edrych ar y geiriau yn eu cysylltiad, gan eu hesbonio yn dra phriodol a naturiol fel rhan o atebiad Job mewn amddiffyniad iddo ei hunan yn wyneb awgrymiadau Bildad yn y bennod flaenorol, disgynodd ar y teimlad a'r ymddygiad pechadurus a dybid yn y testyn— Ymgaledu yn erbyn Duw. Darluniai galedwch-Pa beth oedd gynnwysedig mewn ymgaledu yn erbyn Duw, a thrwy ba ffyrdd yr oedd dynion yn ymgaledu. Yna elai rhagddo i ddangos yr ynfydrwydd a'r trueni o ymgaledu yn erbyn yr Arglwydd, oddiar yr ystyriaeth o'r priodoliaethau dwyfol a nodir yn y geiriau—a hyn oll gyda helaethrwydd a manylder a difrifoldeb a nerth annghyffredinol. Gallasent hwy dybied, oddiwrth hyd ei bregethau ereill, nad oedd yn bossibl ei fod wedi traethu cymmaint mewn llai na thua dwy awr o amser, ac y buasai y traddodiad yn effeithiol iawn ar gynnulleidfa. Tybia Mr. David Jones, hyd y dydd heddyw, na chlywodd mo hono erioed
Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/76
Prawfddarllenwyd y dudalen hon