Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/77

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn pregethu yn fwy os mor nerthol a'r pryd hwnw yn Nant y Tylathau. Ymddangosai fel â'i holl enaid yn y gwaith, ac megis pe buasai yn gweled trueni yr annuwiol o flaen ei lygaid. Llawer canwaith y bu y ddau frawd yn dysgwyl ei glywed yn llefaru ar y testyn a nodwyd, oddiar ddymuniad i gael clywed drachefn y bregeth ryfeddol a wrardewsid ganddynt dan y fath amgylchiadau. Ond ni ddygwyddodd iddynt ei chlywed byth, ac y mae yn ansicr pa un a bregethodd ar y geiriau byth wedi hyny. Yr ydym yn crybwyll am y pregethu yn Nant y Tylathau yn y lle hwn, nid yn unig fel rhan o'i hanes, ond er mwyn egluro cyfeiriad a gawn, yn yr adroddiad a roddir i ni am y nos Sabbath yr oedd y cyfarfod gweddio, y crybwyllasom eisioes am dano, i fod yn y Garnedd. Pan y daeth yn amser dechreu y gwasanaeth, cododd un hen ŵr ar ei draed, ac a ddywedodd, "John, tyr'd i'r fan yma i bregethu tipyn ini. Yr wyt ti wedi pregethu digon i'r hen Geunant yna bellach." Fe gododd yn lled barod, heb gymmaint trafferth ag a gafwyd gydag ef yn fynych wedi hyny. Ymddangosai yn hynod o syml a theimladol. Safai ar y llawr wrth dalcen y bwrdd mawr. Wedi darllen pennod, a rhoddi pennill i'w ganu, gweddïodd yn ddwys ac yn dra effeithiol. Ar ol canu pennill drachefn, cymmerodd yn destyn Rhuf. viii. 17, "Ac os plant, etifeddion hefyd; sef etifeddion i Dduw, a chyd-etifeddion â Christ; os ydym yn cyd-ddioddef gydag ef, fel y'n cyd-ogonedder hefyd." Yr oedd rhyw si wedi myned allan y byddai yn pregethu y noswaith hono, ac yr oedd y tŷ wedi ei orlenwi â gwrandawyr. Nid oedd y Diwygiad y pryd hwnw wedi llwyr oeri yn Nolyddelen, ac nid oedd bywiogrwydd mawr a theimladau cynhyrfus dan y weinidogaeth mewn un modd yn annghyffredin. Ond yr oedd rhywbeth yn y cyfarfod y noswaith hono na welwyd braidd ei gyffelyb erioed. Yr oedd yno un Owen Llwyd, Gorddunant, gŵr pur dal o gorph, ac yn nodedig yn y cyfarfodydd crefyddol am dynerwch a bywiogrwydd ei deimladau, ac am ei " Amen" soniarus a naturiol, ac yn cael ei ystyried yn gyffredin, yn y gymmydogaeth, yn un hynod o ddeallus yn yr ysgrythyrau. Yr oedd y gŵr hwnw, yr oedfa hono, wedi cilio i'r cwr pellaf oddiwrth y pregethwr ieuanc, fel pe buasai yn fwriadol, rhag bod yn un rhwystr iddo. Wedi i John Jones ddarllen ei destyn, cauodd ei ddau lygad, a dechreuodd lefaru braidd yn isel, ond yn gwbl bwyllog, ac heb arwyddo unrhyw ddiffyg mewn meddiant arno ei hunan. Yn raddol codai ei lais a llefarai yn