Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/79

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eglwys—yr argyhoeddiad cyffredinol yn meddyliau ei gymmydogion am wirionedd ei grefydd-y sî oedd wedi myned allan am ei bregethau hynod yn Nant y Tylathau-ac, yn neillduol, y bregeth effeithiol yn y Garnedd rhwng y pethau hyn oll, yr oedd ei safle fel pregethwr eisoes wedi ei benderfynu yn gwbl ddiddadl yn eu meddyliau, ac ni a allwn fod yn hollol sicr iddo gael pob cefnogaeth a allent hwy roddi iddo i fyned rhagddo gyda'r gwaith mawr. Ac oddiwrth yr hyn oedd yn arferedig yn gyffredinol yn mhlith y Methodistiaid y pryd hwnw ni a allwn fod yn sicr iddo gael rhyw ddosparth o'r wlad y perthynai iddi yn gylch neillduol i'w lafur, gyda phob rhyddid ac annogaeth iddo i roddi ei gyhoeddiadau i'r amrywiol gapeli yn y dosparth hwnw, fel y gelwid arno gan y swyddogion eglwysig a berthynent iddynt. Yn ol hen Goflyfr o'i eiddo ei hunan, yr ydym yn casglu mai teithiau Dolyddelen, Capel Curig, a'r Bettws; Penmachno, Capel Garmon, a'r Ysbytty; a bennodwyd iddo, ar y cyntaf, i lafurio ynddynt; er, dybygid, iddo yn fuan iawn fyned i Ffestiniog, Trawsfynydd, Maentwrog, Penrhyndeudraeth, Llanfrothen, ac amryw fanau ereill, o gryn bellder oddi cartref; ac i ba le bynnag yr elai yr oedd tyrfaoedd lliosog yn cyrchu i'w wrandaw, ac effeithiau nerthol ac annghyffredin yn canlyn ei weinidogaeth. Y mae erbyn hyn yn bregethwr ieuanc ar brawf, ond heb ei dderbyn eto yn aelod o'r Cyfarfod Misol.