Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/8

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llythyr canlynol, a dderbyniais, mi a dybiwn, oddiwrth ei fab, neu ryw berthynas arall iddo, gydâ golwg ar y sylwadau hyny:

86 Factory Cefn Coch, Medi 9fed, 1872."

"BARCHEDIG SYR,

Drwg iawn genyf fi a llïaws ereill o gyfeillion y diweddar "Edeyrn, Mon," ydoedd canfod, wrth ddarllen eich Sylwadau ar Ddadleuon Duwinyddol Cymru, yr ymosodiadau bryntion ac annhêg a wnewch ar gymmeriad llenyddol un a ystyrid gan bawb a'i hadwaenai yn un o'r duwinyddion mwyaf craff, a christion gloyw a difwlch, ac yn un na fynai (ond haerwch chwi i'r gwrthwyneb) wneyd cam â golygiadau ei wrthwynebwr mewn dadl ar un cyfrif. Ond y mae'r dull yr ydych chwi yn crybwyll am dano, ynghyd â'r argraph a osodwch ar y wlad yn ei gylch, yn ei osod allan yr un mwyaf annhêg a ymaflodd erioed mewn ysgrifell. Dygwch liaws o gyhuddiadau anwireddus hollol am dano ger bron y darllenydd, sef ei fod yn ysgrifenu dan ddylanwad pleidgarwch ac yspryd dadlu, a'i fod hefyd yn cam–ddyfynu brawddegau o'r llyfr rhagorol hwnw, "Drych y Dadleuwr," gan Cymro Gwyllt. Mewn gair, yr ydych bob tro y cyffyrddwch â'i enw yn gwneyd argraph anffafriol i'r darllenydd am dano, nes peri i un feddwl mai rhyw Ismael o ddyn ydoedd, a'i law yn erbyn pawb, &c. Beth a barodd i chwi, Syr, gymmeryd mantais annhêg fel hyn ar ddistawrwydd y marw i lefaru pethau mor chwerwon yn ei erbyn nis gwn yn iawn, os nad Edeyrn fu a'r llaw benaf yn dynoethi croes ddywediadau ac ynfydrwydd a syniadau cyfeiliornus y Cymro, pa rai sydd yn afiach lwydo ar draws eu gilydd yn y Drych, heb na rheop na threfn arnynt o gwbl. Yr wyf wedi darllen gweithiau rhai awdwyr duwinyddol, ond ni chanfyddais olygiadau crefyddol gan yr un o honynt cyffelyb i'r eiddo Richard Jones, Wern. Wedi i mi fyned dros ei lyfryn, mae'n anmhosibl gwybod yn y diwedd, mwy na'r dechreu, beth ydoedd ei farn ef ei hun ar y gwirionedd. Mae'n ymddangos i mi fel dyn wedi hollol ddyrysu. Cymer arno amddiffyn rhyw olygiad mewn un rhan o'i lyfr, a chondemnia hwnw eilwaith mewn lle arall. Y mae'n rhyfedd genyf fi i Edeyrn erioed anturio i wneyd sylwadau ar y fath lyfr o gwbl. Dywedwch chwi fod Edeyrn yn y Dysgedydd am 1833, yn rhoi ar ddeall fod Richard Jones yn gwadu holl–ddigonolrwydd ac anfeidroldeb yr Aberth mawr, ac yr ydych yn rhyfeddu yn fawr i Edeyrn feiddio gwneyd y fath beth. Nis gwn paham yr ydych mor anfoddlon i'r cyhuddiad yna, os darllenasoch Ddrych y Dadleuwr. Y mae yn hawdd i bawb weled mai syniadau cul ac Uwch–galfinaidd trwyadl oedd yr eiddo Richard Jones, pe amgen, i ba ddiben y daeth allan yn erbyn Calfiniaeth gymedrol Mr. Roberts, Llanbrynmair? Nid wyf fi yn haeru fod Edeyrn wedi dyfynu ymadroddion o'r Drych air am air, fel y ceir hwynt yno, ond y mae yn hawdd i bawb diragfarn weled nad oes y cam lleiaf wedi ei wneyd ganddo â golygiadau Richard Jones, pe amgen ofer yw dal ar ystyr geiriau i osod y meddwl allan. Wele eiriau Richard Jones:–"Os na roddwyd Iawn dros neb ond yr etholedigion, yna rhaid fod rhwystr anorfod o du Dduw i neb arall fod yn gadwedig." Yn awr, gwnewch a fynoch a'r frawddeg uchod, nis gellwch osgoi y casgliad, sef fod y gŵr o'r Wern yn gwadu anfeidroldeb Aberth y groes. Ai nid yn nghylch yr Iawn, a'i natur, a'i ddigonolrwydd dros bawb, ydoedd hanfod y ddadl rhwng y Cymro a Mr. Roberts? Ie, yn sicr: fel y mae'n hawdd i bawb sydd yn meddu y Drych, a Dysgedydd y cyfnod hwnw yn ei feddiant weled. Yn awr, Syr, oni welwch chwi fod eich barn am Edeyrn yn gyfeiliornus, a bod Richard Jones yn euog o'r hyn a roddai Edeyrn yn ei erbyn? Am yr ysgrif sydd yn dwyn y titl, "Richard Jones a'r Bibl yn erbyn eu gilydd," yr ydych wedi digio yn fawr wrthi, debygwn I. Dygwch enghraifft er dangos annhegwch Edeyrn yma hefyd, yn ceisio gosod y Cymro fel yn ystyried yr Apostolion fel ysgrifenwyr cyffredin yn agored i fethu, &c. Yn awr, y mae cystrawen ac iaith y Cymro yn y ddalen hono o'r Drych yn cyfreithloni syniad Edeyrn am dano cystal a chwithau. Hyderaf y gwna rhywun sydd a mwy o amser ganddo na mi adolygiad têg ar eich Sylwadau yn y "Cofiant." Gydâg ewyllys da,

Yr eiddoch,

SAMUEL ROBERTS."