Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/80

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD V.

PREGETHU HYD EI DDERBYN I'R CYFARFOD MISOL: 1821.

Ei amgylchiadau anfanteisiol i'w waith newydd—symud i Lanrhochwyn—adgofion serchiadol ei gydweithwyr yno—ei ddifrifoldeb arbenig—awydd mawr am eu hiachawdwriaeth―nerth corfforol annghyffredin—Rhagluniaeth—gwaredigaeth hynod iawn —cyfarfodydd duwinyddol yn Nhrefriw—Ysgrifeniadau y Dr. Edward Williamsymroad John Jones gyda'r cyfarfodydd duwinyddol—ei dderbyniad i'r Cyfarfod Misol

Yr oedd amgylchiadau allanol John Jones y pryd hwn yn dra anfanteisiol iddo fel pregethwr. Yr oedd yn teimlo angenrheidrwydd arno i ymgymmeryd â rhyw orchwyl tuag at ei gynnaliaeth, yn ychwanegol at yr hyn a ddygid i'w fam a'r teulu trwy y tyddyn yn Nolyddelen, yn neillduol gan fod ei frawd ieuangaf, gyda'r fam a'r plant ereill, yn hollol alluog i ofalu am amgylchiadau y cartref. Yr oedd y gwaith ar ffordd fawr Caergybi yn nodedig o galed, yn gofyn cerdded milltiroedd ato ac oddiwrtho bob dydd i'w letty, ac yn neillduol yn ei osod dan angenrheidrwydd i gyd-weithio à lliaws mawr o ddynion nas gallasai fod un cydnawsedd rhwng ei deimladau ef â'u hiaith ac â'u hymddygiadau. Yr oedd yn nodedig o anfanteisiol iddo yn enwedig i ddilyn ei gyhoeddiadau Sabbothol. Fe benderfynodd, gan hyny, ymadael yn gwbl oddiyno. Wedi bod gartref am ychydig amser, fe symmudodd i Drefriw, i weithio fel chwarelwr yn Nghloddfa Clogwyn y Fuwch, ond gan fyned i'w gartref dros y Sabbath, a pharhau i gadw ei aelodaeth eglwysig yn Nolyddelen. Er nad oedd yno braidd yn adnabyddus fel pregethwr, eto fe dynodd yn fuan sylw ei gydweithwyr trwy ddifrifoldeb ei ymddygiadau, ac yn neillduol ei arferiad o siarad neu ganu wrtho ei hun, pan yn cerdded at ac oddiwrth ei waith, yn gystal a phan yn y gwaith pa bryd bynnag y cai ei hunan mewn dim neillduaeth. Nid hir y bu yn y gloddfa hono, ond efe a symmudodd i Gloddfa Llanrhochwyn. Yr oedd ei bartner yn y gwaith yn nghloddfa Llanrhochwyn yn ddyn tra digrefydd ac anystyriol. Rhybuddid ef yn fynych gan John Jones oblegyd ei