Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/81

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymddygiadau. Ond nid oedd dim a ddywedid wrtho yn tycio er peri un cyfnewidiad er gwell arno. Un diwrnod, pan oedd yn arddangos annuwiodeb mwy na chyffredin, dywedodd yn ddifrifol wrtho, os ai rhagddo felly, nas gallai ddysgwyl yn hir osgoi soriant y Goruchaf, ac nas goddefid ef i farw fel pob dyn, fod y Bibl yn bygwth dinystr disymmwth fel na byddai meddyginiaeth" ar "y gwr a geryddid yn fynych ac a galedai ei wàr," a'i fod yntau yn amlwg yn temtio yr Anfeidrol i ddial felly arno ef, ac amryw ymadroddion i'r un ystyr. Ni chymmerodd y dyn nemawr sylw o'r rhybudd ar y pryd, ac ni welwyd un arwydd diwygiad arno. Ond, ysywaeth! yn fuan iawn fe wiriwyd y geiriau. Un boreu, fe ddaeth John Jones at ei waith yn dra phruddaidd yr olwg arno. Gofynwyd iddo gan un o'i gyd-weithwyr (Mr. Robert Williams, Minffordd, Ffestiniog yn awr, yr hwn sydd yn rhoddi yr hanes i ni) beth oedd yn peri ei fod yn ymddangos mor isel a phruddaidd. Atebodd yntau, mai wedi bod yn ymweled â'i hen bartner yr ydoedd, ac iddo ei gael yn glaf iawn, yn gymmaint felly fel yr ydoedd yn ammheus ganddo a ydoedd hyd hyny yn fyw. "Ac yr oeddwn," meddai, "wedi dywedyd peth wrtho pan oeddem yn cydweithio ag y mae braidd yn edifar genyf am dano erbyn hyn." "Pa beth," meddai yntau, " a ddywedasoch wrtho ?" "Dywedyd a ddarfu i mi," ebai John Jones, "os ai rhagddo yn ei annuwioldeb, na byddai marw fel pob dyn, ond y byddai marw yn ddisymwth iawn. Y mae yntau wedi crybwyll hyny wrthyf heddyw, gan ddywedyd ei bod wedi dyfod ato yn hollol fel y dywedais i. 'Hwyrach,' meddwn innau wrtho, y cewch wella eto, ac amser i edifarhau.' Na,' meddai yntau wrthyf, yr wyf yn ymyl marw. Ond nid ydyw marw yn ddim. O! y tragywyddoldeb mawr wedi hyny. O! uffern! uffern! uffern byth! Yr oeddwn, wrth ei glywed, yn teimlo fel pe buasai fy nghalon yn hollti ynof," meddai John Jones. A bu y truan farw y boreu hwnw. Fe ddengys yr enghraifft hon nad yn y pwlpud, nac yn y cyhoedd yn unig, yr oedd John Jones y pryd hyny yn arwyddo awydd am iachawdwriaeth ei gyd-ddynion, ond ei fod yn defnyddio pob cyfleustra, yn mha le bynnag y byddai, er amcanu at hyny. Ac nid oedd nemawr ddim ag yr oedd ei feddwl yn fwy argyhoeddedig o hono, nac a wasgwyd ganddo mewn blynyddoedd diweddarach gyda mwy o egni a theimlad at feddyliau ei gyd-gristionogion, na'r rhwymedigaeth sydd yn gorphwys ar bob credadyn, fel y cyfryw, yn y cylch y byddo yn troi