Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/82

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ynddo ac yn ol y dalent a roddwyd iddo, i ymdrechu dros Iesu Grist am iachawdwriaeth ei gyd-ddynion.

Un o'r pethau sydd wedi gwneuthur yr argraff ddyfnaf am dano ar gôf ei gydweithwyr, y rhai sydd eto yn fyw, ydyw y nerth corfforol anarferol oedd yn eiddo iddo. Yr oedd ei gyd-weithwyr yn ymhyfrydu mewn profi ei nerth ac ni lwyddasant erioed i ddeall ei lawn rym. Adroddir amryw hanesion ganddynt am dano, er prawf o hyn, pan ydoedd yn gweithio yn y cloddfeydd. Yr oedd yn Nghloddfa Llanrhochwyn ddau ag oeddent yn ymffrostio cryn lawer o'u nerth, un William Jones, Pandŷ, a John Trefor, Llanrhochwyn; ac yr oeddent, mewn gwirionedd, yn ddynion cryfion annghyffredin. Un diwrnod aethant i roddi prawf arnynt eu hunain. Aethant a berfa i mewn i'r lle yr oeddent yn cael y cerrig o hono. Llwythwyd hòno â cherrig pedair troedfedd o hyd a throedfedd o led, nes yr aeth yn rhy drom iddynt allu ei symmud. Daeth eu nerth i'r terfyn. Nis gallai yr un o honynt ei syflyd. Yn awr, meddai Edward Williams, ei bartner ef, "Mi ddaliai i yr aiff Jack, Tan-y-Castell, a'r ferfaed allan." Aeth yn ddal rhyngddynt. "Wel," meddai Edward Williams, "ewch chwi bawb i'w fan." Aeth Edward Williams i chwilio am John Jones. "Jack," meddai, "yr wyf fi wedi cael berfaed o'r cerrig goreu a welaist ti erioed. Tyr'd gyda mi i'w cheisio, da di; yr wyf fi yn methu ei symmud." "Na, na," meddai John Jones, "nid yw yn dêg i ni bigo y cerrig goreu, ni a wnawn gam felly ag ereill yn y gwaith." "Paid a gofalu," meddai Edward Williams, "y mae yna ddigon o rai da ar ol." Ac felly llwyddodd i gael ganddo ddyfod i geisio y ferfaed. Wedi dyfod, cydiodd yn y ferfa, cododd hi yn hollol ddiboen, a dygodd hi allan i'r lan heb ymddangos fel pe buasai yn golygu ei fod yn gwneyd un orchest. Cafwyd ar ddeall ei fod yn mhell tu hwnt i bawb, ïe, o'r rhai a ystyrid yn gawri y plwyf mewn nerth corfforol. Ryw bryd arall, yr oedd berfa wedi ei llwytho fel nas gallai neb ei syflyd. Gofynwyd iddo ef a ddeuai ati. Dywedodd yntau wrth un o honynt am fyned ar ben y ferfa; ac yn hollol ddidrafferth, dybygid, fe hwyliodd y dyn a'r llwyth i ben y domen. Dro arall, fe gafwyd prawf annghyffredin o'i nerth. Daeth achos i fyned a charreg fedd o'r gloddfa i Fynwent Llanrhochwyn. Dygwyd yr Elor i'w cheisio. Nodwyd ar John Jones, a'i ddau frawd, Richard a William, gydag un arall, John Jones, Tŷ'n y llan, i'w danfon. Cymmerodd John Jones un pen i'r Elor, a gadawodd y tri ereill yn y pen arall i newid â'u