Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/84

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iddo, a oedd ë yn tybied fod rhagluniaeth yn hyny, ac y gallai hyny fod er daioni. Honai yntau yn dra phenderfynol, ac yn dra difrifol, yn enwedig yn ngwyneb yr amgylchiadau fel yr ymddangosent iddynt hwy, nad oedd hyny wedi dygwydd y tu allan i gylch y llywodraeth ddwyfol, a'i fod yn sicr, er nas gwyddai pa fodd, ei fod wedi ei fwriadu er daioni hefyd. Pa fodd bynnag, bu raid iddo y diwrnod hwnw fyned i'w letty, i le a elwid Penrallt, i ymofyn am ei giniaw. Dygwyddodd i ryw gyfaill alw heibio iddo fel ag yr ymdrodd yn llawer hwy nag yr oedd wedi bwriadu. Erbyn iddo ddychwelyd i'r gloddfa, fe ganfyddai ei gydweithwyr mewn syndod, ac yn edrych yn dra difrifol. A'r gwirionedd oedd, tra yr ydoedd efe yn absennol, yr oedd darn o'r graig wedi syrthio i lawr i'r fan lle yr oedd efe yn arfer gweithio; a phe na buasai iddo fod dan yr angenrheidrwydd o fyned i'w letty y diwrnod hwnw, ond yn bwyta ei giniaw fel arferol yn y gloddfa, buasai wedi ei ladd yn y fan. Erbyn hyn yr oedd yn amlwg i'w gyd-weithwyr, ac yn fwy sicr iddo yntau, fod y dygwyddiadau lleiaf, ac sydd yn ymddangos i ni y mwyaf dibwys, dan lywodraeth ddwyfol, ac oll wedi eu bwriadu er daioni. Yr oedd gwaith mawr gan yr Arglwydd i'w gyflawni trwyddo ef, a llygad Rhagluniaeth yn gwylio drosto, fel na chaffai un niwed ddygwydd iddo, hyd nes y cwblheid hwnw.

Yr oedd yn parhau i ddefnyddio pob cyfleusdra a allai gael i ddwyn achos eu heneidiau dan sylw ei gyd-weithwyr yn bersonol, ac i'w cymhell i ymroddi o ddifrif ac heb oedi i grefydd. Ni allai oddef i neb arfer iaith anweddaidd yn ei glywedigaeth, ac yr oedd y fath ddylanwad ganddo, yn y cyffredin, fel mai anfynych iawn y rhyfygai neb wneuthur hyny. Adrodda un o'i hen gyd-weithwyr i ni, yr hwn oedd ar y pryd yn ddigrefydd, iddo fyned ryw Sabbath i Lanrwst, i Gyfarfod Ysgolion oedd gan y Wesleyaid yno. Nid oedd y gwr hwn y pryd hyny yn gwybod dim braidd am egwyddorion Calviniaeth nac Arminiaeth. Daeth John Jones at ei waith ddydd Llun, o'i gyhoedd. iad Sabbothol, a gofynodd i'w gyd-weithiwr, fel y byddai yn arfer, yn mha le y buasai y Sabbath. Atebodd yntau mai yn Nghyfarfod Ysgolion y Wesleyaid, yn Llanrwst, a dechreuodd ganmol y Wesleyaid, a thaeru mai hwy oedd yn eu lle, bod eu hegwyddorion yn fwy unol â'r Bibl, ac mai hwynt hwy oedd y bobl oreu. "Ni wnai John Jones," meddai y gwr, " ond ychydig neu ddim sylw o honof. Ond wrth fy nghlywed yn parhau i wneyd swn felly, ac mewn dull mor