Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/85

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymhongar, ac yn deall yn dda nad oedd genyf ond ychydig iawn o wybodaeth am y fath bethau, dechreuodd arnaf, ac aeth i'm holi, a minnau yn taeru, nes o'r diwedd y cafodd fi yn amlwg i'm gwrth-ddywedyd fy hun. Pan welais hyny, cynhyrfais o ran fy ysbryd, a rhoddais regfa hyll. Tawodd John Jones yn y fan, ac ni ynganodd un gair mwy wrthyf y diwrnod hwnw. Dranoeth, aethom, fel arferol, ein dau i'r graig, i geisio cerrig i'w gweithio. Wrth lwytho y ferfa, mi a dorais. fy mys. Yn y fan, rhoddais regfa hyll drachefn. Gollyngodd yntau i lawr ar unwaith y garreg oedd yn ei ddwylaw ef ar y pryd. Daeth ataf. Cydiodd yn y garreg oedd yn fy nwylaw, a rhoddodd hi ar lawr. Yna cydiodd â'i ddwylaw yn fy mrest, ac aeth â mi fel cerpyn encyd o ffordd o'r neilldu, i ganol y Bonc. Yr oedd y nerth a deimlwn yn ymaflyd ynof yn fy ngwneyd yn rhy ddigalon i wneyd un gwrthwynebiad. Daliodd fi mor lonydd a phe buaswn mewn vice, am, mi dybiwn, yn agos i awr o amser. Dywedodd wrthyf, gan edrych yn myw fy llygaid, am ddrwg rhegi a phob drwg arall yr oeddwn yn euog o hono, ac mor effeithiol, nes oeddwn yn wylo fel plentyn. Ar ol cael addewidion difrifol genyf y diwygiwn, gollyngodd fi yn rhydd. Aethom drachefn at ein gwaith: a bum o hyny allan, fel y gellwch yn hawdd feddwl, mewn ofnau, ac ar fy ngwyliadwriaeth fanwl, rhag gwneyd dim o'i le yn ei glywedigaeth nac yn ei olwg ef."

Yr oedd Llanrhochwyn yn dra anfanteisiol iddo gyda golwg ar ei deithiau Sabbothol, yn Sir Feirionydd; ond anfynych, er hyny, y byddai yn colli dim o'i amser yn y Gloddfa oblegyd y teithiau hyny. Byddai yn gyffredin gyda'i waith ar foreu Llun; ac os methai weithiau y boreu, byddai yn sicr o fod yno erbyn hanner dydd. Pan ddychwelai ymofynai am iechyd ei gyd-weithwyr, ac yn mha leoedd y buasent y Sabbath, a dyna y cwbl. Ni siaradai braidd air wedi hyny â hwynt am ddeuddydd neu dri, oddieithr yr hyn fyddai yn angenrheidiol gyda golwg ar y gwaith. Ond, cyn diwedd yr wythnos, byddai wedi dyfod i siarad yn rhydd a chyffredinol, ac iddynt hwy mewn dull nodedig o serchiadol. Y pryd hyny yr oedd y diweddar Barch. Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd), gartref yn nhy ei dad yn Nhan-y-celyn, ac yn aelod ffyddlawn a thra defnyddiol yn eglwys y Trefnyddion Calvinaidd yn Nhrefriw. Yr oedd efe y pryd hyny yn ŵr ieuanc lled ddysgedig, o feddwl tra ymchwilgar, o ysbryd hynaws a gostyngedig, ac o dymher nodedig o garuaidd a chyfeillgar. Arferai gynnull yn nghyd ychydig