Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/87

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mae yn ddiammeu genyf pe buasai yn parhau i astudio, fel y cychwynodd, heb ymroddi cymmaint i'r byd, y buasai yn ddyn annghyffredin, ac yn bregethwr braidd digymhar, llawn cymmaint, os nad mwy na John. Yr un pryd, yr oedd rhyw gryfder annghyffredin yn meddwl John, rhyw dreiddgarwch anwrthwynebadwy, ond iddo gael ychydig amser i fyfyrio ar y pwnc. Os cai John ohirio y mater dan sylw hyd y noswaith ganlynol, traddodai arno araeth nerthol a hyawdl, fel afon lifeiriol yn ysgubo pob peth o'i blaen. Ond os cai Richard ganiatâd i'w holi byddai yn sicr o'i ddyrysu. Ni welais neb erioed mor barod ei feddwl a Richard, na neb erioed a'r fath allu ganddo i daflu ei wrthwynebwr i ddyryswch." Dyna dystiolaeth Ieuan Glan Geirionydd am yr hyn oedd y brodyr y pryd hyny. Y mae yn debyg na bu odid ddyn meddylgar, am gymmaint a hanner awr o amser, yn nghyfeillach Mr. Richard Jones, yn ei flynyddoedd diweddaf, yn enwedig os disgynai yr ymddyddan ar ryw gwestiwn dyrys mewn Duwinyddiaeth, heb deimlo oddiwrth y gallu annghyffredinol a ddangosid ganddo, ac heb resynu, fel Mr. Evans, fod y fath feddwl wedi ei gaethiwo i'r fath raddau i drafferthion y byd, yn lle cael ei adael yn rhydd i ymdreiddio, yn ol yr hyn yr oedd mor gymhwys iddo, i wirioneddau dyfnion a gogoneddus y dadguddiad dwyfol, a gwneyd ei ran mewn dull mwy cyhoeddus, fel ei frodyr, gydag achos Mab Duw. Yn y cyfarfodydd, y cyfeiriasom atynt, hwy a aethant dros lawer o waith Dr. Edward Williams, "On the Equity of Divine Government and the Sovereignty of Divine Grace," ac hefyd ei "Defence of Modern Calvinism," sef ei atebiad i'r "Gwrthbrawf i Galviniaeth," a gyhoeddasid gan yr Esgob Tomline Darllenai Mr. Evans ran o Dr. Williams iddynt yn y Gymraeg. Yn: ymchwilid yn fanwl i ystyr yr adran. Wedi penderfynu eu meddylia ar hyny, cymerid y golygiad yn destyn ymddyddan, ac yn gyffredin yn destyn dadl, y naill yn cymmeryd plaid y Doctor a'r lleill yn gwrth wynebu. Ac os cynnwysai bwnc o bwys mawr, y cyfryw ag a safai yn destyn dadl yn y byd Cristionogol, fe dreulid amryw gyfarfodydd arno A mawr fyddai y chwilio a'r myfyrio arno erbyn y cyfarfod dilynol. Bu dau brif lyfr y Dr. Williams, fel hyn dan ymchwiliad manwl ganddynt, gan eu gosod o frawddeg i frawddeg, fel ar arteithglwyd, y nail yn tynu un ffordd, ac ereill ffordd arall, er prawf o rym y gosodiadau a ddysgid ynddynt. Bu y cyfarfodydd hyn, fel y gellid yn hawdd meddwl, ac fel y cydnabyddai efe ei hunan gyda diolchgarwch hyd