Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/89

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fesur yn afreolaidd, yn gymmaint ag nad oedd y terfynau a osodasid. iddo yn cyrhaedd can belled; ac yr oedd un o hen weinidogion y Sir yn chwyrnu cryn lawer oblegyd yr afreoleidd-dra, a rhai o gyfeillion John Jones yn ofni y gallai roddi brathiad lled boenus iddo, yn ol yr hyn oedd braidd yn arferiad ganddo, pan y cai gyfleusdra yn y Cyfarfod Misol. Ond yr oedd teimlad a llais y wlad yn gymmaint o'i blaid, ei gymeriad crefyddol yntau mor ddiargyhoedd, a'i ddoniau gweinidogaethol o nodwedd mor newydd a dysglaer, ac, yn neillduol, yr oedd yr hen frawd ei hunan, erbyn hyn, wedi cael mantais i wrandaw arno yn pregethu ac wedi cael boddhad mawr ynddo, fel na wnaed ond cyfeiriad cynil at yr afreoleidd-dra a gymerasai le, gan daflu yr amgylchiadau yr ydoedd ynddynt yn gochl drosto, a gosod y rhan fwyaf o hyny o fai a allai fod ar y Blaenoriaid am ei hudo. Ni chafodd efe ond y derbyniad mwyaf caredig a chynhes gan yr holl frodyr i aelodaeth yn eu plith yn y Cyfarfod Misol.

Yn yr ymddyddan âg ef gyda golwg ar hyny, yn ol yr arferiad cyffredin ar y fath achlysuron, yn mysg pethau ereill holwyd ef am ei gymhelliadau at y weinidogaeth. Yntau, yn ol ei arfer, yn lled arafaidd i adrodd ei feddwl, ac yn enwedig yn ochelgar rhag gwneuthur un broffes uchel, a ddywedodd, "Y mae rhyw gymhelliad yn fy meddwl at y gwaith ers blynyddoedd, ond nis gallaf ddywedyd yn benderfynol pa beth ydyw. Yr ydwyf wedi bod mewn ofnau mawr rhag rhedeg heb gael fy anfon, ac yn ceisio gweddio llawer am sicrwydd fod Pen yr Eglwys yn 'gosod ynof air y cymmod' yn gennadwri at y byd gwrthryfelgar. Pan oeddwn, cyn dechreu pregethu, yn pryderu yn nghylch hyn, daeth hyny i'm meddwl ryw bryd gyda bywiogrwydd mawr, ac a barodd lawer o dawelwch i mi, fod ei eglwys yn anwyl iawn gan yr Arglwydd, a'i fod yn arfer datguddio ei feddwl iddi hi. Felly penderfynais adael fy achos yn llaw yr Arglwydd, heb ddywedyd dim with neb arall, gan gredu yr hysbysai ei feddwl i'w bobl yn fy achos innau, os ei ewyllys ef oedd fod i mi geisio gwneuthur ychydig drosto yn y byd yn y ffordd o bregethu. Ac fel yr oeddwn yn gobeithio ac yn ceisio gweddio, fe ddaeth rhai o'r swyddogion ataf i ymofyn â mi yn nghylch fy nheimladau gyda golwg ar y gwaith ac i'm cymhell ato, a rhyw fodd yr ydwyf yn cael fy hun wedi dyfod iddo." Ar hyny fe gyfododd y Parch. Simon Lloyd, Bala, yn ddisymwth i fynu, ac a ofynodd iddo yn ei ddull diniwed ei hun, "Oeddech chwi yn meddwl