Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/9

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae y llythyr hwn yn llefaru drosto ei hun. Nid ydwyf yn teimlo fod yr angenrheidrwydd lleiaf am i mi ychwanegu yr un gair yn atebiad iddo. Yn unig nis gallaf lai na sylwi, ei fod braidd yn syn genyf fod yr ysgrifenydd, tra yn amddiffyn Edeyrn yn erbyn y cyhuddiad o gam–ddyfynu, yn gosod i lawr megis geiriau Mr. Richard Jones, eiriau ag yr oedd efe yn bendant wedi ysgrifenu yn eu herbyn (gwel tu dal. 496–498, o'r gwaith hwn); a geiriau wedi eu cymmeryd yn llythyrenol,–oddieithr bod y gair "iawn" yn cael ei arfer yn lle y gair "pridwerth,"–o'r "Galwad Difrifol," tu dal. 14. Ni ddymunwn ddefnyddio yr un gair a allai archolli teimladau neb wrth gyfeirio at y byw, llawer llai wrth grybwyll am y marw; ond pan ystyrir y dull a arferwyd gan Edeyrn i ymosod ar Mr. Richard Jones,–heb sôn am Mr. Henry Rees, a Mr. John Jones,–yn y Dadleuon a adolygid genyf, ac o'r hyn y ceir rhai enghreifftiau, a dim ond rhai, yn y gwaith hwn, yr ydwyf braidd yn tueddu i dybied fy mod, ar y cwbl, wedi bod yn hytrach yn dyner tuag ato ef.

Pe buasai y gwaith heb fod wedi ymestyn mor faith eisoes, buasai yn dda genyf, yn y rhan olaf o hono, gymmeryd golwg ar y pulpud yn y Brif eglwys; ac yn Lloegr, Scotland, Ffrainc, ac America, mewn oesoedd diweddarach, a hyd y dyddiau presennol; gan amcanu at osod allan ei nodweddau neillduol mewn amrywiol wledydd, ac mewn gwahanol oesoedd; a dwyn y cwbl i gymhariaeth â'r pulpud yn Nghymru. Ond buasai hyny yn arwain i ormod meithder, ac yn peri i nodwedd y gwaith, yn ei gysylltiad â Mr. John Jones, ymddangos yn llai amlwg hyd yn nod nag ydyw yn awr. Y mae, pa fodd bynnag, yn destyn ardderchog; ac yr wyf yn gobeithio y cymmerir ef i fynu gan ryw un a wna gyfiawnder hollol âg ef.

Y mae yn gweddu i mi gydnabod yn ddiolchgar yr ychydig gyfeillion a'm cynnorthwyasant yn y gwaith, trwy anfon ataf eu hadgofion am Mr. John Jones. I'w frawd, Mr. William Jones, ac, yn enwedig, i'r diweddar Mr. David Jones, yr wyf yn benaf yn ddyledus am ddefnyddiau ei hanes yn ei ddyddiau boreuol, hyd nes y dechreuodd bregethu ; ac i'w blant, yn enwedig Mrs. Owen a Mr. Thomas Lloyd Jones, am ddefnyddiau ei hanes yn ei wythnosau diweddaf. Y mae enwau y caredigion ereill wrth eu cyfraniadau, ac yr wyf yn dymuno cyflwyno iddynt fy niolchgarwch mwyaf diragrith.