Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/90

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac yn dysgwyl i'r Arglwydd roddi dadguddiad digyfrwng i'w eglwys yn eich achos chwi?" Gyda'r cwestiwn, dyna wên gyffredinol trwy y lle, a'r lliaws yn codi ar unwaith ar eu traed i ymwrandaw pa atebiad a roddid gan John Jones. Dywedodd yntau yn dawel, ond mewn llais yn hytrach yn uwch nag y siaradai yn flaenorol," Nid oeddwn i am dòri ffordd iddo, Syr, ond ei adael yn rhydd i gymmeryd ei lwybr ei hun, naill ai trwy gyfrwng neu ynte yn ddigyfrwng, nid oedd o un gwahaniaeth i mi." Yr oedd y Parch. John Peters, yn cyd—gerdded o'r capel â Mr. Lloyd, ac o ran ychydig ddigrifwch fe ofynodd iddo, Paham, Mr. Lloyd bach, na buasech chwi yn cynnyg un codwm arall a'r pregethwr ieuanc, yn lle rhoddi i fynu fel yna ar unwaith?" Atebodd yntau, "Codwm arall, John Peters, nid oedd o un defnydd genyf fi gynnyg ail godwm, ac yntau wedi fy rhoddi i lawr yn deg y codwm cyntaf."

Effeithiodd y croesawiad tyner a gafodd gan bawb yn y Cyfarfod Misol, ac yn neillduol gan yr hen frodyr, gymmaint arno, fel ag i'w wneuthur yntau, ar hyd ei oes, yn nodedig o ofalus am deimladau brodyr ieuainc mewn amgylchiadau cyffelyb; ac nid oedd dim braidd a'i poenai yn fwy na chanfod un tuedd at ddim croes i hyny yn neb arall. Yr oedd efe yn myned i'r Cyfarfod mewn cryn bryder, gan y gwyddai ei fod wedi cael ei hudo i raddau o afreoleidd—dra; yr oedd rhai o'i gyfeillion yn ofni yr ymosodid yn lled galed arno; ac nid oedd neb o honynt yn dysgwyl y diangai heb dipyn o gerydd. Ond yn y gwrthwyneb yn hollol y bu. Yr oedd pob llygad yn siriol, pob llais yn fwynaiddd, pob llaw yn gynhes, pob calon yn gariadus; a theimlodd ei hunan ar unwaith yn eu plith yn gwbl gartrefol,—fel brawd yn nghanol ei frodyr.