Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/91

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD VI.

O'I DDERBYNIAD I'R CYFARFOD MISOL HYD EI BRIODAS: 1821—1823.

Parhad amgylchiadau anfanteisiol—ei ymroad i'r Weinidogaeth—ei Boblogrwydd o'i gychwyniad cyntaf—Mr. Elias yn Beddgelert—Cyfarfod Misol Dolgelleu—Cyfarfod Misol Trefriw—ei Sabbath cyntaf yn Mangor—cyhoeddiad i ran o Arfon—cytuno i symud i Dalsarn—Cymdeithasfa Caernarfon—Mr. Charles, Caerfyrddin—Mr. Elias—teimladau ei gyd-weithwyr pan oedd yn ymadael—ymsefydlu yn Nhalsarn—ei ymroad i wasanaethu crefydd yno—cyfarfodydd canu—ei briodas.

Y MAE John Jones yn awr wedi ei dderbyn yn aelod o Gyfarfod Misol Sir Feirionydd, ac yn cymmeryd ei safle yn mhlith ei frodyr fel un o bregethwyr rheolaidd y Cyfundeb y perthynai iddo, ond heb ei dderbyn eto yn aelod o'r Gymdeithasfa. Yr oedd bellach yn meddu cyflawn ryddid i roddi ei gyhoeddiadau i ba le bynnag y gelwid arno o fewn y Sir, gyda chaniatâd neu oddefiad distaw, yn wyneb angenrheidrwydd am un i gyflenwi taith Sabbothol, i fyned yn achlysurol i un o'r Siroedd ereill yn terfynu arni. Yr oedd y galwadau arno ef, ar unwaith, mor lïosog ac mor daer, fel nad oedd bosibl iddo mewn unrhyw amgylchiadau, ac yn neillduol yn yr amgylchiadau yr ydoedd ar y pryd tanynt, mewn un modd ateb iddynt. Yr oedd yr hen frodyr yn gwasgu cymmaint ar y pregethwyr ieuainc i beidio gollwng gafael o'u galwedigaethau, a gofalu uwchlaw pob peth am rywbeth i'w cynnal heb feddwl dibynu ar y weinidogaeth, a'r gydnabyddiaeth a roddid am y llafur Sabbothol mor druenus o fychan, fel y teimlai angenrheidrwydd cadw yn gaeth gyda'i waith yn y Gloddfa: ac yr oedd ei gyhoeddiadau yntau yn raddol yn cael eu rhoddi i fyned i'r fath bellder fel, yn gymmaint ag y byddai yn wastadol y pryd hyny yn teithio i bob man ar ei draed, ac yn pregethu dair gwaith y Sabbath, a phob tro yn faith ac yn nerthol, ag y daeth yn fuan nid i deimlo blinder, ond i ystyried nad oedd bosibl iddo, gydag unrhyw gyfansoddiad, barhau yn hir i lafurio mor galed,