Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/92

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac i ddymuno, pe buasai modd, cael rhywle i weithio ynddo fuasai yn fwy cyfleus iddo gyda golwg ar y teithiau Sabbothol yn y Sir. Er hyny, hyd nes y delai y fath le i'r amlwg, yr oedd yn penderfynu aros lle yr ydoedd, a gwneyd y Gloddfa, hyd y gallai, yn ddarostyngedig hollol i'r gwasanaeth a ymdrechai roddi i'r efengyl. Ei bwnc mawr oedd bod yn bregethwr, ac yn bregethwr mawr. Ac er ei fod, ar hyd ei oes, yn teimlo ei hunan yn annhraethol islaw i'r drychfeddwl oedd ganddo am y fath un, ac y chwarddai yn hanner—cywilyddus, weithiau, wrth gofio am neu pan yr adroddid iddo rai o'i bregethau cyntaf, eto, i olwg ereill, yr ydoedd, o'i gychwyniad cyntaf, yn ymddangos yn dyfod allan i sylw y byd yn ei lawn faintioli. Yr oedd, i ba le bynnag yr elai, yn peri cyffro mawr. Ac yr oedd yr effeithiau nerthol a ddilynent ei weinidogaeth yn peri i'r sôn am dano ymledu trwy y wlad, a hyny er cryn anfantais iddo ef yn fynych, gan y dysgwyliadau uchel a gynnyrchid yn meddyliau y bobl am dano. I ba le bynnag yr elai ymdyrai cynnulleidfaoedd lliosog i'w wrandaw, o bell ac agos, ac o blith yr amrywiol enwadau crefyddol, ac hyd yn nod rhai nad arferent braidd un amser fyned i unrhyw le o addoliad, o leiaf yn mhlith yr Ymneillduwyr. Yr oedd ei lais, yn enwedig y pryd hwnw, yn hynod o dreiddiol a soniarus, fel clychau arian; ei ddawn ymadrodd yn nodedig o rwydd a swynol; a'i ysbryd yn llawn o fywyd ac yni a thân. Ond, heblaw hyny, yr oedd y pethau a leferid ganddo a rhagoriaeth gwirioneddol ynddynt, ac yn ennill sylw dirfawr, nid yn unig oddiwrth y dosbarth cyffredin o'r gwrandawyr, ond oddiwrth y rhai eangaf eu gwybodaeth, craffaf eu sylw, a choethaf eu chwaeth. Yn mhlith y pregethwyr mwyaf yr oedd ei edmygwyr penaf. Fel enghraifft o hyn, ni a allwn gyfeirio at ei gyfarfyddiad cyntaf â'r Parchedig John Elias. Yr oedd cyhoeddiad Mr. Elias i fod yn Beddgelert ryw noswaith, ac aeth John Jones, gydag amryw ereill o Ddolyddelen, yno i wrandaw arno. Yr oedd hyn ar ryw adeg pan y dygwyddai fod gartref, yn Nhan-y-Castell, am ychydig ddyddiau, yn lled fuan wedi ei dderbyn yn aelod o'r Cyfarfod Misol. Ryw fodd fe glybu Mr. Elias ei fod yno: a chan ei fod wedi clywed llawer o sôn am dano, ac yn canfod cyfleusdra iddo i'w wrandaw, fe roddodd ar y Blaenoriaid wneuthur iddo bregethu gydag ef. Yr oedd John Jones yn hynod o wrthwynebus i hyny, ac yn dywedyd nas gallai feddwl am y fath beth yn nghlywedigaeth Mr. Elias. Ond, wedi cryn lawer o ymdrech, fe gaed ganddo o'r diwedd