Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/93

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gydsynio. Byddai ef ei hun yn adrodd am ei deimladau y tro hwnw, ei fod bron yn methu dringo grisiau y pulpud gan ofn y pregethwr mawr oedd i fod ynddo gydag ef; ond iddo gael cymhorth yn fuan wedi dechreu gweddio, i'w annghofio, ac yn raddol i bob ofn gilio ymaith yn llwyr. Cafodd nerth annghyffredin y noswaith hono. Ni a gawn gyfeirio eto at yr hyn a glywsom ein hunain o enau Mr. Elias yn gyhoeddus am ei deimladau wrth wrandaw arno y pryd hwnw. Wedi dyfod i dŷ y Capel y noswaith hono, pan yr oedd John Jones wedi dychwelyd gyda'r cyfeillion tua Dolyddelen, dechreuodd Mr. Elias holi y blaenoriaid am y gŵr ieuanc. Dywedai ei fod o'r blaen yn fynych wedi clywed sôn am dano fel un a rhywbeth hynod iawn ynddo, ond na feddyliasai erioed ei fod y fath un. "Mi a deimlais," meddai, "wrth ei glywed yn gweddio fod rhyw beth annghyffredin ynddo; ond can gynted ag y dechreuodd bregethu, mi a welais, ar unwaith, ein bod wedi cael pregethwr gan Dduw. Y mae mewn gwirionedd yn ŵr ieuanc annghyffredin iawn, a gobeithio y ceidw y nefoedd ef." Dyna dystiolaeth Mr. Elias am dano, ar ol ei glywed y tro cyntaf, yn mhen ychydig gyda hanner blwyddyn wedi iddo ddechreu pregethu. Ac yn wir, pan ystyrir ei anfanteision, y mae yn syndod pa fodd y cyrhaeddodd mor fuan y fath allu, ac yn enwedig y fath goethder a dillynedd mewn iaith a chwaeth, ag i ennill sylw a chymmeradwyaeth y rhai coethusaf a mwyaf deallus yn mhlith ei gydwladwyr. Nid oedd erioed wedi bod ddiwrnod mewn ysgol ond yn yr Ysgol Sul. Nid oedd ganddo ar y cyntaf ond ychydig iawn o lyfrau yn eiddo iddo ei hunan heblaw y Bibl, ac o'r ychydig hyny nid oedd odid un o nemawr werth iddo fel pregethwr. Nid oedd y pryd hyny yr un Esboniad i'w gael ar y Bibl yn yr iaith Gymraeg oddieithr un Mr. Samuel Clark, a hwnw yn anhawdd ei gael, yn enwedig yn Nolyddelen. Nid oedd erioed wedi gweled un traethawd ar gyfansoddiad pregeth, nac wedi cael gair o gyfarwyddyd ar hyny gan neb. Ond yr oedd wedi sylwi yn fanwl ar bob pregeth a wrandewsid ganddo ers blyneddau—wedi sylwi nid yn unig ar ei materion ond ar ei chyfansoddiad—ac wedi dyfod i synio yn bur gryf fod rhyw beth yn ddiffygiol yn y ffurf oedd ar y nifer amlaf o'r pregethau a glywsai i beri iddynt gynnyrchu yr effeithiau cryfaf ar feddyliau y gwrandawyr. Ac a'r meddwl hwn fe dorodd iddo ei hunan lwybr newydd i gyfansoddi pregeth tra gwahanol i'r hyn a glywsai yn gyffredin gan ereill; torodd yn wir rediad i'w weinidogaeth