Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/94

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a amrywiai gryn lawer oddiwrth yr hyn a arferasai wrandaw o'i febyd. Ymroddodd i fyfyrio yr ysgrythyrau; safai uwch eu pen â meddwl hollol annibynol; a gollyngodd ei hunan i'w harweiniad, heb gymmeryd nemawr sylw o syniadau, dulliau, na geiriau neb arall. daeth yn foreu iawn yn argyhoeddedig fod y ffurf sydd ar y gwirioneddau dwyfol yn y Bibl y cymhwysaf o bob un fel cynllun i'r pregethwr i'w ddilyn wrth eu cyflwyno ger bron y byd, tra ar yr un pryd yr oedd mor argyhoeddedig fod y perffeithrwydd dynol uchaf—deallol, ymresymiadol, barddonol, areithyddol—i'w ddwyn, hyd holl allu y pregethwr, i wasanaethu yr amcan mawr o gymhell pechaduriaid i dderbyn y cymmod a'u hennill at Fab Duw. Gyda'r syniadau hyn, pan y cofir y galluoedd naturiol cryfion y bendithiasid ef â hwynt, a'r hir amser yr oedd y cyfryw syniadau wedi bod yn troi yn ei feddwl, nid yw mor ryfedd, er ei holl anfanteision, fod ei bregethau o'r dechreu braidd, o ran eu priodoldeb neillduol i'r rhanau arbenig o'r ysgrythyrau a ddewisid yn destynau iddynt neu y cyfodent yn naturiol o honynt, yr eglurhâd goleu a roddid ynddynt ar y gwirioneddau a ddygid ganddo i sylw, cysylltiad agos a phrydferth yr amrywiol ranau o honynt â'u gilydd, a chysondeb eu trefniad er ffurfie un cyfansoddiad lluniaidd a dianaf, eu tuedd rymus at wellau pechaduriaid, ac yn enwedig yn y drychfeddyliau tanbaid a wreichionent drwyddynt,—nid rhyfedd, meddwn, eu bod yn y teithi hyn, a rhagoriaethau ereill a berthynent iddynt, yn ennill cymmeradwyaeth a syndod dynion o'r chwaeth uchaf, tra yr oedd rhyw elfenau neillduol yn ei lais a'i draddodiad oeddent ddigon ynddynt eu hunain i sicrhau ei boblogrwydd gyda'r lliaws. Ond yr ydym yn gweled ein bod wedi crwydro at fater sydd i ddyfod yn helaeth iawn dan ein sylw eto, pryd y dylasem yn awr aros gyda'i hanes personol.

Wedi ei dderbyn yn aelod o'r Cyfarfod Misol, efe a ymdrechai, er holl anfantais y lle y gweithiai ynddo, ei ddilyn gyda chymmaint o gysondeb ag oedd yn bosibl iddo dan yr amgylchiadau yr ydoedd ynddynt. Mae genym hanes yn Ngoleuad Cymru, am fis Mehefin, 1822, Llyfr II. tu dal. 447, 448, am Gyfarfod Misol a gynnaliesid yn Nolgelleu, yn y mis Mawrth cyn hyny, pryd yr oedd efe yn bresennol, ac yn dechreu un o'r oedfäon. Gan mai dyna y cyfeiriad argraffedig cyntaf, adnabyddus i ni, am John Jones yn cyflawni unrhyw wasanaeth cyhoeddus gyda'r achos y daeth wedi hyny mor amlwg ynddo, yr ydym yn cael ein temtio i ddyfynu o'r Goleuad yr adroddiad a gawn