Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/95

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am y Cyfarfod hwnw, yn neillduol gan nad ydyw ond byr iawn. Ac fel y canlyn y mae:

"Mawrth 27 a 28, diweddaf, cynnaliwyd Cyfarfod Misol gan y Trefnyddion Calvinaidd yn Nolgellau.—Yn Nghyfarfod neillduol y Pregethwyr a'r Henuriaid (ar ol trefnu pethau amgylchiadol yr achos yn y Sir, &c.), galwyd sylw y cyfarfod at yr hyn a fuasai dan ystyriaeth y cyfarfod chwarterol diweddaf, sef, Crefydd Deuluaidd, yn nghyd ag annogaeth i bawb oedd yn bresennol fod yn ddiwyd yn eu cymdeithasau cartrefol i annog at y ddyledswydd hon. Hefyd ar fod i rïeni ddwyn eu plant i gael mwynhâu o freintiau yr eglwys. Yn ganlynol sylwyd pa fodd y dylid ymddwyn at y plant fyddo wedi cael eu dwyn i fynu yn yr eglwys, ac wedi dyfod i ddeall egwyddorion sylfaenol crefydd, ac yn ddiargyhoedd yn eu bywyd, i wneyd derbyniad o honynt fel aelodau, ac i fod yn gyfranog o'r ordinhâd sanctaidd, swpper yr Arglwydd. Soniwyd hefyd am y gofal a weddai fod ar benau teuluoedd tuag at eu plant a'u gweinidigion, mewn perthynas i'w rhaggyfeillach â'u gilydd cyn priodi.

Y moddion cyhoeddus oedd fel y canlyn:—Deg ar gloch. J. Jones, Dolyddelen a weddïodd. Enoch Evans, Mat. i. 21. John Roberts, Esaiah xxxiii. 21. Dau ar gloch. J. Jones, Llangower, a weddïodd. Foulk Evans, 1 Ioan iii. 19. Richard Jones, Wern, 1 Cor. v. 7. Chwech ar gloch. Richard Humphreys a weddiodd. David Rowlands, Psalm cvi. 43; John Peters, Esaiah lxii. 12 Yr oedd agwedd ddymunol ar y moddion, ac arwyddion o ddeffröad yn mhlith y gwrandawyr." Dyna yr Adroddiad, yn y Goleuad, am y Cyfarfod Misol cyntaf, dybygid, y bu John Jones yn gwneyd dim yn gyhoeddus ynddo. Ac yr oedd brawd o Ddolgelleu yn dywedyd wrthym ryw amser yn ol, fod mwy o sôn am weddi y pregethwr ieuanc o Ddolyddelen nag am ddim arall braidd ar ol y Cyfarfod Misol hwnw.

Tua'r pryd hwn yr oedd Cyfarfod Misol yn Nhrefriw, perthynol i Sir Ddinbych yn Fethodistaidd. Er fod John Jones yn arfer myned yn gyson i'r holl foddion wythnosol yn Llanrhochwyn a Threfriw, eto gan nad ydoedd yn aelod o Gyfarfod Misol Sir Ddinbych, a'i fod yn naturiol o dueddiad gwylaidd a neillduedig, ni feddyliodd am ei wthio ei hunan i gyfarfodydd neillduol y Cyfarfod Misol, ond aeth yno, gyda lliaws o'r chwarelwyr, trwy y dydd i wrando y pregethau. Erbyn i oedfa y nos ddiwrnod y pregethu ddyfod, yr oedd y pregethwyr wedi ymadael