Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/96

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bron oll fel y disgynodd yn naturiol ar John Jones i bregethu. Nid oedd wedi myned yno ond yn unig fel gwrandawwr, nac wedi dychymmygu y buasent yn ceisio y fath beth ganddo, fel y bu yn galed iawn arnynt lwyddo i'w gael i bregethu. Ond gan nad oedd yno neb arall nid oedd ganddo ond anturio. Dyna y tro cyntaf iddo bregethu mewn Cyfarfod Misol. Erbyn deall, yr oedd yno amryw bregethwyr wedi aros, ond yn eu cuddio eu hunain yn nechreu yr oedfa, wedi gwybod ei fod ef yn y Capel drwy y dydd, yn unig er mwyn ymgais am y fantais i'w glywed yn pregethu. Cafodd bregeth hwylus ac effeithiol anarferol y noswaith hono, a bu sôn am dani trwy yr holl ardaloedd cylchynol am lawer o amser.

Tra yr ydoedd yn gweithio yn Llanrhochwyn, daeth y Parch. Azariah Zadrach trwy y wlad i gasglu at ryw achos oedd yn perthyn i'r brodyr yr Annibynwyr, ac yr oedd yn ei arwain, i'r amcan hwnw, trwy Gloddfa Llanrhochwyn, un o'r enw William Roberts, yr hwn a fu wedi hyny yn bregethwr gyda'r Annibynwyr, hyd ei farwolaeth. "Pan ddaethant atom ni i'r Caban," medd Mr. Robert Williams, Minffordd, Ffestiniog, "y gair cyntaf a ddywedodd William Roberts oedd Dyma y bachgen y soniais i wrthych am dano, Mr. Zadrach.' 'Oh, ai e?' oedd ateb yr hen ŵr. Wedi hyny, aeth yn ymddyddan rhwng John Jones ag ef yn nghylch Ysgol y Neuaddlwyd; a dywedodd Mr. Zadrach wrtho, os ewyllysiai, y gallai efe ei gael i'r Ysgol. Dywedodd John Jones wrtho ei fod ef yn dra diolchgar iddo am ei gynnyg, ond gan ei fod wedi myned mor hen ac heb gael dim mantais o'r blaen nas gallai feddwl am gydsynio, a dywedodd dan wênu, Heblaw hyny, Mr, Zadrach, y mae arnaf ofn i'r cynhauaf fyned heibio tra y byddaf fi yn hogi fy nghryman.' Terfynodd yr ymddyddan trwy i ni roddi dau swllt bob un i Mr. Zadrach at ei gasgliad." Dyma yr unig awgrymiad, y cawsom ni gyfeiriad ato, yn nghylch yr hyn, fe allai, a ymddengys yn syn iawn i nifer mawr o'n darllenwyr, pa fodd y bu na chawsai gwr o alluoedd mor gryfion a doniau mor ddysglaer a John Jones ei anfon i rywle, naill ai at Mr. Lewis Humphreys neu Mr. Lloyd i Gaernarfon, neu at Mr. Lloyd i Abergele, neu at Mr. Hughes i Wrexham, neu i ryw le arall, i ddysgu rhyw gymmaint o Saesonaeg, cymmaint o leiaf ag a fuasai yn ei alluogi i wneyd defnydd o awdwyr Seisonig. Y mae y peth yn neillduol yn ymddangos yn ddieithrol, pan y cofiwn fod amryw y pryd hyny o'r brodyr ieuainc ag y gobeithid fod dim ynddynt,