Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/97

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

naill ai yn myned o honynt eu hunain neu yn cael eu hanfon gan eu hamrywiol Gyfarfodydd Misol i'r cyfryw ysgolion. Yr oedd amryw felly yn enwedig gyda Mr. Hughes yn Ngwrecsam. Yr oedd yn golled ddirfawr i John Jones na chawsai y fath addysg. Yr oedd ei feddwl ef yn arbenig yn un a fuasai uwchlaw odid neb yn gallu manteisio arni. Ac nid yw y fath sylw ag a roddir yn ei enau yn yr Adroddiad hwn, yn nghylch y perygl i'r cynhauaf fyned heibio tra y byddai efe yn hogi ei gryman, od oedd yn ei wneuthur yn ddifrifol, yn profi dim ond ei fod eto heb ymddyrchafu uwchlaw i'r syniadau oeddent yn ffynu yn rhy gyffredin yn y wlad y pryd hyny yn nghylch y diwylliad meddyliol angenrheidiol ar un fyddai yn ymgeisydd am y swydd uchel o fod yn weinidog yr efengyl. Dichon y dywedir ei fod ef, er ei holl ddiffygion athrofaol, wedi cyrhaedd y fath ragoriaethau fel pregethwr ag a'i codent uwchlaw nemawr un o'r rhai a gawsant fwyaf o'r rhai hyny. Ni a addefwn hyny yn rhwydd; ond nid heb ymdrech dirfawr yn ngwyneb anfanteision a fuasent yn digaloni yn gwbl un llai penderfynol nag oedd efe, ac wedi y cwbl y mae yn sicr y buasai cymmaint o gydnabyddiaeth â'r Saesoneg, heb sôn am ddim arall, ag a'i galluogasai i ddarllen y prif draethodau yn yr iaith hono ar Athroniaeth, Moesyddiaeth, a Duwinyddiaeth, yn ei wneuthur yntau yn un tra gwahanol mewn rhyw bethau i'r hyn ydoedd, ac yn ei gadw rhag rhai profedigaethau meddyliol a fuant i raddau mwy neu lai am lawer o'i oes yn flinder iddo. Ac y mae yn ymddangos i ni yn awr na buasai dim haws iddo, yn y cyfnod y cyfeiriwn ato, na rhoddi ei hunan mewn rhyw Ysgol lle y cawsai y manteision goreu i hyny. Pa fodd bynnag fel arall y bu, ac nid oes genym ond ymdawelu, a bendithio yr Arglwydd am ei gael fel ei cawsom, ac am y daioni annhraethol a wnaed i eneidiau dynion drwyddo.

Wedi ei dderbyn yn aelod o'r Cyfarfod Misol, gan fod y lle y gweithiai, ac y cartrefai mewn rhan ynddo, mor annghyfleus iddo i fyned i lawer o ranau a berthynent i Gyfarfod Misol Sir Feirionydd tybiodd, dan yr amgylchiadau, na byddai o un niwed mawr iddo gydsynio â chais y blaenoriaid o'r Capeli oeddent nes ato, mewn cysylltiad â Chyfarfodydd Misol Sir Ddinbych a Sir Gaernarfon, a rhoddi cyhoeddiad yn achlysurol iddynt hwy. Y lle cyntaf yr aeth iddo am Sabbath, mewn cysylltiad â Chyfarfod Misol Sir Gaernarfon, oedd Bangor. Yr oedd cyfnither iddo, gwraig y diweddar Barch. David Roberts, yn