Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/98

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cartrefu yno, a thrwyddi hi y cafwyd ef yno gyntaf. Yr oedd hyny yn haf y flwyddyn 1822. Cafodd un o'r cyfarfodydd rhyfeddaf a gafodd yn ei oes, yn ol tystiolaeth pawb, yn Mangor y boreu Sabbath hwnw. Torodd un gwr, Capt. John Nanney, nad oedd hyd hyny yn arwyddo dim tuedd neillduol at grefydd, allan mewn gwaedd ofnadwy am ei fywyd; cerddodd y teimlad trwy yr holl gynnulleidfa, fel nad oedd yno odid neb yn ymddangos ag un meddiant ganddo arno ei hun. Sefydlodd yr oedfa hono serchiadau John Jones yn Mangor, fel un o'r lleoedd mwyaf dymunol ganddo yn y byd i bregethu ynddo, a rhwymwyd calonau y bobl byth wrtho yntau. Ennillodd o hyny allan y fath boblogrwydd yno ag nad oedd yn eiddo i neb ond efe, oddieithr y Parch. John Elias, gan yr hwn yno, fel o bosibl mewn manau ereill, yr oedd rhyw ddosbarth o wrandawwyr, na chyrhaeddwyd mo honynt byth gan John Jones na chan nemawr neb arall. Ond, ar gyhoeddiad am Sabboth, yr oedd y lliaws a ddelent yn nghyd, pan y byddai John Jones yno, yn llawn cymmaint a phan y byddai Mr. Elias yno. Yr ydym wedi derbyn oddiwrth y Parch. Griffith Hughes, Edeyrn, yr adroddiad canlynol mewn cyfeiriad at y Sabbath cyntaf yma i John Jones yn Mangor:

"Nid ydyw ond megis doe genyf edrych yn ol ar yr ynganiad cyntaf a glywais am ein hen gyfaill; a hyny oedd yn haf y flwyddyn, 1822. Yn union yr amser y bu ein hen weinidog, y Parch. John Jones, Edeyrn, farw, y daeth John Jones arall i'r golwg, yr hwn, er nad ydoedd y pryd hwnw ond llencyn ieuanc a thyner, a dyfodd yn fuan yn llawer mwy nag yntau. Yr oedd fy nhad y pryd hwnw yn forwr, ac yn un o'r ychydig o'r dosbarth hwnw oedd yn meddwl rhywbeth am grefydd, ac yn gallu deall a gwerthfawrogi pregethau, y byddai rhyw deilyngdod neillduol ynddynt. Wedi iddo ddyfod adref o Fangor, lle yr oedd yn cael llwyth o lechi, dywedai wrthyf, Wyddost ti beth, Gutto, mi fum i yn gwrando ar ryw bregethwr newydd yn Mangor y Sul diweddaf, ac ni chlywaist ti yr un erioed o'i fath o.' Pwy oedd o, 'Nhad?'" Wel, rhyw fachgen ifanc o ryw chwarel tu draw i Gonwy. Y dyn harddaf ei berson ond y mwyaf gwladaidd ei ymddangosiad a welaist di erioed. Gwasgod fetel oedd am dano a hancets (ffunen, cadach) Sidan goch am ei wddf: ond ni chlywaist ti erioed y fath bregethwr ag o.' 'Oedd o cystal a * * * * * * 'Nhad?' Taw'r creadur gwirion: ni chlywais i erioed ei fath ond John Elias, eto nid