Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/99

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd dim yn debyg ynddo i Elias. Mi eis i gapel y Graig, yn y prydnawn, i wrando arno, gan dybied mai rhyw ddygwyddiad oedd y fath beth ag oedd yn Mangor y boreu: Ond wedi myned yno Pregethwr oedd o; ac wedi dyfod drachefn i Fangor at y nos, gwell wedi hyny ydoedd, os oedd modd. Ac mi ildiais i yn gwbl iddo ar hyny.' 'Beth ydyw ei enw o, 'nhad?' 'Yr ydwy' i'n meddwl mai John Jones yr oeddan' nhw yn ei gyhoeddi o, ond beth bynnag am hyny, ni chlywais i erioed y fath bregethwr ag o,—mor ieuanc.' Dyma y peth cyntaf a glywais i erioed am dano. Yn Llanrhochwynt yr oedd ein cyfaill yn gweithio y pryd hwnw, a dyma'r tro cyntaf iddo fod yn Mangor, a hyn fu yn arweiniad iddo yn lled fuan i Sir Gaernarfon mewn ystyr, neu yn ol y cylch Methodistaidd. Daeth fy nhad ac yntau yn gyfeillion calon cyn hir, a pharhausant felly hyd ei farw ef. A llawer o chwerthin a fwynhäodd y ddau wrth i mi adrodd yr hanes: ac na ryfedded neb fy mod wedi ei hysgrifenu gyda'r fath fanylder, ac yn y dull cyffredin y cydiodd mor gryf yn fy nghof a'm teimlad."

Ei destynau y Sabbath hwnw yn Mangor oeddent, y boreu, Rhuf. viii. 3; a'r hwyr, Heb. xii. 1. Yr oedd yno orfoledd mawr a chyffredinol yn yr oedfa yr hwyr—mwy cyffredinol ond nid mor gynhyrfus a'r oedfa y boreu. Y cyfarfod yr hwyr a ystyrid ganddo ef y mwyaf effeithiol ar ei deimladau ei hunan. Wedi y Sabbath hwn yn Mangor fe aeth sôn mawr am dano trwy holl Arfon. Ni chai lonydd gan y Blaenoriaid heb roddi cyhoeddiad i fyned trwy y Sir neu ryw ranau o honi. Nid oedd yntau eto wedi cael ei dderbyn yn aelod o'r Gymdeithasfa, fel nad oedd iddo ryddid i hyny; ac yr oedd ceisio y fath beth ganddo yn hollol afreolaidd. Pa fodd bynnag, fe'i perswadiwyd i addaw ychydig oedfaon, mewn rhyw nifer o fanau, mewn cysylltiad â Chymdeithasfa Caernarfon, yr hon oedd i'w chynnal Hydref 2, 3, y flwyddyn hono. Bu y pryd hyny yn Mhentir, yr Ysgoldy, y Rhydfawr, Llanrug, y Waunfawr, a Bron-y-fedw, y lle y pregethid cyn codi y capel yn y Rhyd-ddu. Yr oedd cyfnither iddo, merch i chwaer i'w fam, wedi priodi un o'r enw Griffith Williams, yr hwn oedd ar y pryd yn Olygwr ar Chwarel Talsarn. Aeth Mr. Griffith Williams i Bron-y-fedw i wrando arno yn pregethu, Nos Fawrth, Hydref 1, y noswaith o flaen y Gymdeithasfa yn Nghaernarfon. Perswadiwyd ef ganddo i fyned gydag ef adref i Dalsarn y noswaith hono i letya. Wedi ymdyddan llawer yn nghylch ei amgylchiadau, a deall ei fod mewn lle