Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/100

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llawn parodrwydd eto i dderbyn pechaduriaid fyddo yn troi yn edifeiriol ato. Mae y galarwr ysbrydol yn myned at Dduw am ei gymod a'i heddwch; oherwydd mae yn gweled mai yn hyny y mae mawr bwys; cael ei achos yn glir rhyngddo a'i Farnwr. A chan fod Duw yn deisyf trwy ei weinidogion, a hwythau yn erfyn dros Grist, 'Cymoder chwi â Duw,' a'r galarwr, yntau, yn dymuno derbyn y cymod, mae yn sicr y bydd y cymod bellach wedi ei wneuthur, a Duw a'r enaid yn un.

"Y mae hwn yn alar parhaus, gan mai nid yn ngwlad y pechod a'r cystudd y sychir y dagrau. Nid rhywbeth ffitiog, oriog ydyw; nid galaru yn yr oedfa, a bod yn anystyriol wedi myned adref, ond yn debyg i'r pulse yn y corph yn curo bob amser, er mai weithiau yn wanach ac weithiau yn gryfach. Dyma'r genadwri sydd i'w rhoddi heddyw i ferch Seion—nid merch Moab neu Babilon, ond 'merch Seion,' y bendefiges uchelaf oll, yr hon nad ydwyf deilwng i wneuthur y gwasanaeth lleiaf iddi: Merch Seion, tywallt ddagrau ddydd a nos fel afon; na orphwys, ac na pheidied canwyll dy lygad.' Tra y mae'r afiechyd yn y cyfansoddiad, y pla yn aros,~ pechod mor rwysgfawr yn y byd, ac yn gwneud aml hafog yn yr eglwys, ac yn enwedig yn ymwreiddio ac yn ymledu yn y y galon, tylwyth ein tŷ ein hun mor elynol,—nis gall yr edifeiriol a'r crediniol beidio galaru. Ond y mae genym ochr arall i droi ati.

Dyma sydd i'w gyhoeddi heddyw uwchben galarwyr Seion, er mor gystuddiedig eu calonau, ac er iseled eu profiadau Gwyn eu byd y rhai sydd yn galaru, canys hwy a ddyddenir.'

"Ni cheir y gwir wynfyd ond yn ffordd Duw. Hwn yw y nôd sydd gan bawb, o'r brenin i'r cardotyn,—cyrhaedd gwynfyd; ond ychydig yw y rhai sydd yn lefelu yn gywir at y nôd. Cofier mai trwy'r groes y ceir y gwynfyd, ac mai ar ol y galar y mwynheir y dyddanwch. Mae Satan yn groes i Dduw yn y pwnc hwn, fel yn mhob peth arall. Gyda'r un