Ysgrythyrau, dyddanwch Crist, dyddanwch yr Ysbryd Glân, dyddanwch a leinw enaid dyn. Gobeithio, fy ngwrandawyr, mai nid bychan genych chwi ddyddanwch Duw. Nid am i ni alaru y ceir ef, er fod y galar duwiol yn ei ragflaenu yn nhrefn yr efengyl. Gwerth y gwaed yw'r dyddanwch; trwy angeu'r groes y mae yn dyfod. Mae Mab Duw wedi ei gymhwyso i'w gyfranu, canys medd efe, 'Ysbryd yr Arglwydd Dduw sydd arnaf; oblegyd yr Arglwydd a'm heneiniodd: Efe a'm hanfonodd . . . i gysuro pob galarus, i osod i alarwyr Seion, ac i roddi iddynt ogoniant yn lle lludw, olew llawenydd yn lle galar, gwisg moliant yn lle ysbryd cystuddiedig, fel y gelwid hwy yn brenau cyfiawnder, ac yn blanigyn yr Arglwydd, fel y gogonedder Ef.' A ydych chwi yn foddlawn i'w drefn ? Na freuddwydiwch am fwynhau'r dyddanwch heb hawl iddo. Edifarhewch, a chredwch yr efengyl, a daw i'ch rhan gyfiawnder, a thangnefedd, a llawenydd yn yr Ysbryd Glân."
Yr ydym wedi cymharu yr adroddiad hwn o'r bregeth â'r law—ysgrif wreiddiol, ac yr ydym yn cael ei fod yn adroddiad rhagorol, ïe, yn rhagorol iawn. Ac yn gymaint ag i'r "bachgen pedair—ar—ddeg oed" ysgrifenu mor gywir ac mor gyflawn, nid yw yn rhyfedd genym fod y diweddar Mr. Roger Edwards, o'r Wyddgrug, yn ysgrifenydd a chofnodydd mor fedrus. Ni fu erioed well engraifft i egluro y ddiareb, “Y plentyn yw tad y dyn." Y mae genym brawf pellach o ragoriaeth yr adroddiad uchod yn y law—ysgrif o bregeth ar yr un testyn, a ysgrifenwyd gan Mr. Evans yn Ionawr, 1860. Yr un ydyw a'r bregeth a draddodwyd ganddo yn y Bala yn 1825, eithr wedi ei thalfyru. Mae yn y law—ysgrif, o leiaf, un ychwanegiad prydferth, sef y dyfyniad o Chrysostom,"Nid yw dagrau galar duwiol yn disgyn i golli—maent yn hâd dyddanwch. Fe droir dagrau galar yn win gorfoledd, fel yn Cana Galilea."
Ni ddywedwn ddim yn mhellach am y bregeth. Er nad yw llais, na thân, nac agweddiad y pregethwr, na'r dylanwad