Morganwg ar y pryd ond bychan, a bod yr eglwysi yn amlhau, y mae yn lled sicr ei fod yn gweinyddu yr ordinhad hon yn mron bob Sabboth o hyny allan. Y mae yn amlwg ei fod yn sylweddoli yn llawn ystyr ei neillduad; canys yr oedd mewn llafur diorphwys gyda'r weinidogaeth. Heblaw cyflawni y cyhoeddiadau Sabbothol a dilyn y Cyfarfodydd Misol, yr oedd yn aml yn pregethu ar ddyddiau yr wythnos, ac yn myned i'r cyfarfodydd eglwysig yn Glynogwr, a'r Ddinas, a'r Llan, a manau ereill, yn gystal ag yn ei gartref ei hun. Bu hefyd yn Nghymdeithasfa Talgarth ar y 18fed a'r 19eg o Hydref, lle y pregethodd am 6 y bore oddiar Heb. ii. 3; a gwnaeth daith fer trwy sir Frycheiniog mewn cysylltiad â'r Gymdeithasfa. Yr oedd y Sabboth olaf o'r flwyddyn yn disgyn ar ddydd Nadolig; pregethodd am 5 yn y blygain ar Donyrefail, aeth i Glynogwr erbyn deg, i Bencoed erbyn dau, ac oddiyno erbyn yr hwyr i'r Hen Gastell. Ac y mae y diweddiad hwn o waith y flwyddyn yn engraifft deg o'i lwyr ymgysegriad i weinidogaeth yr efengyl.