1826 fel hyn: Sul, y 24ain o Rhagfyr-Llanwyno am 10, Pontypridd am 2, Bryntirion am 6; dydd Nadolig—Tonyrefail am 5 y bore, Trehill am 10 a 2, Pendeulwyn am 6; Sul, yr 31ain-Ponfaen am 10, Aberthyn am 2, a'r Ton y nos.
Y mae hanes Mr. Evans am 1827 yn dra chyffelyb i'r hyn a adroddwyd am y flwyddyn flaenorol. Yr oedd yn pregethu mewn chwech o Gyfarfodydd Misol ei sir am y flwyddyn, sef yn Trehill, Chwefror; Ystradmynach, Mawrth; Pencoed, Ebrill; Castellnedd, Mehefin; Ystradgynlais, Medi; a Llansamlet, Hydref. Mae yn sicr ei fod yn Llantrisant yn Mai, ac yn fwy na thebyg ei fod yn y Pil ar y 1af a'r 2il o Ionawr, ac yn Nghyfarfod Misol Penybont yn Gorphenaf, ac feallai yn y Dyffryn yn mis Tachwedd. Nid oedd yn bresenol yn Mhontypridd yn Rhagfyr, am ei fod ar y pryd yn Bristol. Cynaliwyd y Cyfarfod Misol am Awst yn Nghaerdydd, sef ar yr 22ain a'r 23ain; yr oedd efe yno. Dyma drefn y pregethu: am 6, y nos gyntaf, "Wm. Morris, Mr. Charles; am 10, Wm. Griffiths, Mr. Charles; am 2, David Howell,[1] Wm. Morris;" ac y mae'r testynau hefyd i lawr yn y cof-lyfr. Bu dwy Gymdeithasfa yn Morganwg yn 1827—y naill yn Mhontfaen, ar y 3ydd a'r 4ydd o Ionawr, a'r llall yn Mhenybont, y ddau ddiwrnod olaf yn Mai. Mae yn ddiameu fod Mr. Evans yn bresenol yn y ddwy. Y mae Mr. Thomas Nicholas, Pontfaen, yn cofio ei fod yn bresenol yn y Gymdeithasfa yno, ac iddo ddechreu un o'r oedfeuon. Yr oedd y Parchedigion David Charles, Caerfyrddin, a Rowland Hill, yn pregethu yn y Gymdeithasfa hono. Bu hefyd mewn tair Cymdeithasfa allan o'r sir-yn Aberhonddu ar yr 28ain a'r 29ain o Fawrth, yn Nghaerfyrddin ar y 27ain a'r 28ain o Fehefin, ac yn Mlaenafon (sir Fynwy) ar yr 17eg a'r 18fed o Hydref; pregethodd yn mhob un o honynt. Treuliodd yr oll o fis Rhagfyr yn Bristol; a phregethodd yno dair gwaith bob Sabboth, a dwy waith yn yr wythnos, sef yn gyfangwbl— tair-ar-ugain o weithiau, heblaw presenoli ei hunan yn y
- ↑ Yr oedd efe newydd ddychwelyd o sir Faesyfed i gartrefu yn Abertawy.