2. Caniatawyd i Mr. David Williams, Merthyr, a William Morris, Cefn, i ddanfon copy o'r rhan gyntaf o'u llyfr, sef yr Athraw, i Gyfarfod Misol pob sir yn y Deheubarth, fel y caffont olwg ar y gwaith cyn yr Association nesaf, er barn ac amlygu eu golygiadau arno yno.
3. Fod pob sir i ofalu anfon un llefarwr i Bristol y Sulgwyn, i'r Association.
4. Caniatawyd i bobl Caerfyrddin argraffu rheolau perthynol i'r Corph, ond gofalu eu bod yn ol y rheolau sydd yn Nghyffes Ffydd y Corph.
5. Coffawyd llythyr a argraffwyd yn Madagascar, wedi ei anfon at y Corph, gan ddymuno rhyw ychydig o gymorth at helaethu yr ysgolion yn eu plith. Mae yn nghylch 2000 0 blant yn awr dan addysg; ac o blith y rhai hyn y mae'r brenin eisioes yn cael rhai i fod mewn swyddau yn y wladwriaeth. Penderfynwyd fod eu hachos i fod dan sylw yn yr Association nesaf.
6. Rhoddwyd gair o gyngor mewn perthynas i'r holl ymddyddan sydd yn y wlad mewn perthynas i'r Pabyddion. Mae yr agwedd sydd wedi myned ar y wlad yn herwydd hyn yn ynfyd ac yn wâg iawn: y gwragedd, a phlant, a dynion nad ydynt yn deall dim, yn llawn berw ynfyd i gyd; ond mai ein dyledswydd ni fel proffeswyr yw dilyn byw yn llonydd ac yn ddiymryson, ac yn ostyngedig wrth draed yr Arglwydd, gan gofio mai yr Arglwydd sydd yn teyrnasu, a hyn yw ein bywyd ni. Am hyny na fyddwn rhy brysur yn ein geiriau am bethau na wyddom nemawr neu ddim am danynt.
7. Cynygiwyd y brodyr canlynol gan yr amrywiol siroedd i'r Corph, er cael eu neillduo yn gyflawn i waith y weinidogaeth:
- (1.) Edward Jones a David Jenkins, o sir Aberteifi.
- (2.) William Llewellyn, o sir Benfro.
- (3.) Benjamin Evans, o sir Forganwg.
8. Na byddo neb i ganiatau nac i oddef sticko bills ar ddrysau y capeli am werthu coed, neu i amlygu ffeiriau, neu