gyhoeddi ychwaith o fewn y capeli ddim o'r fath bethau. 'Ac efe a yrodd allan y prynwyr a'r gwerthwyr.'
- Society 8 o'r gloch.
1. Penderfynwyd i'r siroedd anfon gweinidogion bob dau fis am un Sabboth i'r Gelli a Phenybont, er gweini yr ordinhadau i'r eglwysi Seisonig sydd yno. Sir Forganwg i anfon gweinidog am un Sabboth i'r Gelli (Hay) yn mis Medi.
2. Cydunwyd i anfon gair o gyfarchiad oddiwrth yr Association at y brodyr sydd yn glaf ac yn anabl i drafaelu gyda'r achos gan eiddilwch a gwendid :
- (1.) Mr. Williams, Lledrod, a Theophilus Jones, sir Aberteifi.
- (2.) Mr. Charles a Thomas Evans, Caerfyrddin.
- (3.) Watkin Edward, sir Frycheiniog.
- (4.) Mr. Howells, Richard James, sir Forganwg.
3. Coffawyd yr hyn fu dan sylw yn Association Merthyr mewn perthynas i'r Ysgolion Sabbothol. Na bo dim ond un ysgol i gael ei holi ar y Sabboth, a phawb i ymadael ar ol y cyfarfod hwn; ac na fyddo i bedair neu bump o ysgolion i gyfarfod â'u gilydd y bore a'r prydnawn ar y Sabboth, ond ei gynal fel rhyw gyfarfod arall, a phawb i fyned tua'u cartref, fel na byddo traul a chost yn cael ei wneud ar y Sabboth gyda'r cyfarfod hwn yn wahanol i rhyw gyfarfod arall.
4. Fod achos yr Ysgolion Sabbothol i fod dan sylw yn Nghyfarfod Misol Abertawy, gan fod amryw o frodyr dyeithr yn dyfod yno."
Dyna'r cofnodau; ac y maent yn ddarlun da o'r Gymdeithasfa fel ag yr oedd yn cael ei dwyn, yn mlaen gan y tadau. Gellid ymhelaethu gyda golwg ar rhai o'r penderfyniadau uchod, fel ag i daflu goleuni pellach arnynt; ond byddai hyny yn arwain i ormod meithder. Gan hyny ni wnawn ychwanegu dim at yr adroddiad, eithr ei adael fel y mae, i ddangos mawr a manwl ofal yr hen bobl o fendigedig goffadwriaeth am yr achos a ymddiriedwyd iddynt gan Ben yr eglwys. Y mae y cofnodion uchod yn ddangosiad am yr hwn a'u hys-