y Cyfeisteddfod; a phregethodd yn yr hwyr, sef nos yn mlaen y Gymdeithasfa, oddiar 1 Tim. vi. 19. Dros y gweddill o'r wythnos rhoddodd dair oedfa yn y dydd yn sir Gaerfyrddin, a dychwelodd erbyn y Sabboth, y 24ain, i Gasllwchwr am 10, Llangyfelach am 2, a Chastellnedd yr hwyr. Gwnaeth Mr. Evans ysgrifenu penderfyniadau Cymdeithasfa Woodstock yn yr un llyfr ag yr oedd yn cadw cofnodau Cyfarfod Misol Morganwg ynddo. Yn y Gymdeithasfa hono y cyflwynodd y Cyfarfod Misol achos y ddadleuaeth ag oedd wedi bod yn cael ei dwyn yn mlaen am tua blwyddyn o amser yn Merthyr, ag oedd yn peri annghydfod poenus yn yr eglwys yno. Yr oedd y mater wedi bod dan sylw y frawdoliaeth yn Morganwg mor bell yn ol a Chyfarfod Misol Merthyr, yr hwn a gynelid ar y 3ydd a'r 4ydd o Fawrth, pryd y "cydolygwyd am y ddadl, nad oedd y ddadl ddim ond mewn termau, ac nid mewn athrawiaeth, sef am y prynedigaeth; a chydunwyd yn unllais, trwy arwydd, mai yn ol llyfr y Corph mae addasaf geirio ar y prynedigaeth: a phwy bynag ymgynygia godi y ddadl drachefn i fod dan gerydd." A bu yr achos eilwaith dan sylw y Cyfarfod Misol yn ystod y flwyddyn, a chafwyd y rhaid ei gyflwyno i ystyriaeth y Gymdeithasfa. Ac yn Woodstock fe "gytunwyd ar y brodyr canlynol i fyned dros yr Association i Ferthyr Tydfil fel cenadwyr ar yr achos sydd yn galw sylw :
Parch. | Wm. Morris | Mr | Elias Basset. |
" | Evan Harries. | " | Wm. Watkins |
" | Wm. Havard | " | Powell |
" | Arthur Evans | " | Owen Lewis |
" | Richard Thomas | " | Thomas David |
" | Wm. Evans | " | Wm . Jenkins |
Yr oedd y cenadon hyn mewn llawn awdurdod i weithredu fel y barnent yn oreu er lles yr achos yn y lle. Aeth y ddirprwyaeth bwysig uchod i Ferthyr dydd Mercher, yr 22ain o Ragfyr. Nid ydym yn gwybod a oedd yr holl genadon yn bresenol, ond y mae genym sicrwydd fod Mr. William Evans