y meistr tir ei wâs ato i "ofyn am fenthyg ceffyl, ac onite—," pryd yr atebodd, "Dywed wrth dy feistr nad oes genyf geffy! i'w fenthyca, a phe tae —." Ond er y cyffyrddiadau achlysurol hyn, yr oedd y boneddwr o'r Garthgraban Fawr a'r gŵr o Garthgraban Fach yn byw ar y cyfan yn hollol. gymydogol, a phob teimlad da yn ffynu rhwng y ddau deulu. Fe ddichon y dylid egluro ei fod yn ymddangos nad oedd amgylchiadau y tir—feddianydd yn helaeth iawn; ac ar ol i brisiau pethau godi yn nechreu y ganrif bresenol yr oedd y tiroedd yn dyfod o fwy o werth nag a fuasent, yr hyn a fu yn fantais fawr i David Evans, yn enwedig gan fod ganddo brydles, yn nygiad i fyny ei deulu lluosog.
Fel y gwelsom yn barod, cymerodd David Evans iau crefydd arno yn ieuanc, a daeth yn fuan iawn i wneuthur ei hun yn ddefnyddiol. Y waith gyntaf yr etholwyd blaenoriaid gan eglwys Fethodistaidd Tonyrefail, yr oedd efe yn un a ddewiswyd i wasanaethu yr achos yn y swydd hono. Efe hefyd benodwyd yn drysorydd yr eglwys; ac fel rheol yr oedd gweddill yn ddyledus iddo ar ddiwedd y flwyddyn, ond yn ddieithriad byddai efe yn gwastadhau y cyfrif ei hunan, fel na byddai yr achos yn cael dechreu blwyddyn newydd dan ddyled. Enw ei gyd—flaenor oedd Isaac James, yr hwn oedd yn cadw melin Tonyrefail, ac adwaenid ef yn gyffredin fel Isaac o'r Felin; gŵr o alluoedd naturiol da, ac o gymeriad crefyddol pur, ac yn meddu dylanwad mawr ar ei holl gymydogion. Un o adgofion ein mebyd ydyw y parchedigaeth dwfn a deimlid gan bawb yn ardal Tonyrefail at Isaac James, a'r sylw manwl a'r gwrandawiad astud a roddid i'w anerchiadau synwyrlawn ar ddiwedd yr ysgol yn mron bob Sabboth. Y mae ei goffadwriaeth yn parhau yn fendigedig. Fel hyn y dywedai ein taid am y ddau flaenor, fel arweinwyr y cyfarfod eglwysig,—“ Yr oedd yn treat bod yn y society gyda 'nhad ac Isaac James. Yr oedd Isaac James feallai yn fwy o feddyliwr, ond fy nhad oedd yr areithiwr goreu;" ac adroddai ddywediad o eiddo un Jenkin Lewis am ei dad,—