Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/39

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyn ei phriodas, am tua saith mlynedd yn ngwasanaeth Mr. a Mrs. Prichard yn y Collena. Aethasai yno yn nghylch yr amser y ganwyd eu merch Susannah, ac yr oedd wedi magu llawer arni. Cyflawnodd yr un gwasanaeth dros ereill o'r plant, ac yn enwedig Richard. Yr oedd nifer y teulu o'r Collena yn naw o blant—dau fab a saith merch. Y mab arall ydoedd y Parch. Evan Prichard, am beth amser offeiriad Ystradyfodwg, a'r Capel Bach, Tonyrefail, yr hwn a fu farw ar y 29ain o Dachwedd, 1827, yn 49 oed. Ganesid ef gan hyny yn 1776, sef blwyddyn cyn ymadawiad Elisabeth Morgan o'r Collena i'w phriodi gyda David Evan o'r Rhagat. Enw un o'r merched oedd Susannah, yr hon a fu farw ar yr 20fed o Ebrill, 1790, yn 19eg oed, wedi bod chwech wythnos yn glaf o glefyd trwm, ond a ymadawodd mewn heddwch a llawenydd annhraethadwy; ac i'r hon y canodd y bardd anfarwol o Bantycelyn farwnad ychydig o fisoedd cyn ei farwolaeth ei hun. Ceir y farwnad ar dudalen 572 o'r argraffiad newydd o Weithiau Williams, Pantycelyn, dan olygiad y Parch. N. Cynhafal Jones, D.D., Llanidloes. Fel arwydd o'u cydymdeimlad â Mr. a Mrs. Prichard yn eu galar, ac o'u parch i goffadwriaeth eu merch ymadawedig, gosodwyd ei henw ar y ferch gyntaf a anwyd yn y Garthgraban ar ol ei marwolaeth ; ac y mae yr enw Susannah yn aros yn amryw o gangenau y teulu. Yr ydym yn cofio yn dda dair o'r chwiorydd ereill. Bendithiwyd hwy fel eu mam âg hir ddyddiau, ac fel hithau glynasant wrth y Methodistiaid hyd eu marwolaeth. Yr oedd un o honynt yn briod i Mr. Evan Thomas, blaenor yr eglwys ar Donyrefail; ac wedi i'r ddwy ereill golli eu gwŷr, symudasant at eu chwaer i Donyrefail, a bu y tair yn cyd—fyw yn yr un tŷ am flynyddoedd. Arferai y tair eistedd yn y sêt fawr yn y capel, ac yr oeddynt mewn gwirionedd yn addurn i'r lle ac yn golofnau gyda'r achos. Yr oeddynt wedi eu bedyddio yn helaeth âg ysbryd crefydd. Yr oedd un o honynt yn athrawes ffyddlawn yn yr Ysgol Sul. Eu tŷ hwynt oedd cartref y pregethwyr hyd symudiad