PENOD III.
1814—1817.
CYNWYSIAD.
Ei briodas—Ymddyddan gyda'i nith, Mrs. Llewelyn—Rhieni a theulu Mrs. Evans—Cymeriad ei briod—Y lleoedd y bu yn trigianu ynddynt; Gelligron, Collena, Tylcha, Trân, Caercurlas—Ei blant—Marwolaeth ei briod a phump o'i blant—Ei hanes grefyddol o'i ymuniad â'r eglwys yn 1814 hyd 1818.
YR oedd y flwyddyn 1814 yn flwyddyn bwysig yn hanes Mr. Evans. Fel y dangoswyd yn y benod flaenorol dyma'r flwyddyn y cafodd grefydd; ac yn yr un flwyddyn priododd wraig. Yr ydym yn ei gael yn cyfeirio at hyn yn yr ymddyddan cynlynol a gymerodd le rhyngddo a'i nith, Mrs. Llewelyn, Pontyclown, gerllaw Llantrisant, pan yn galw yno ar ei ffordd adref o gyhoeddiad Sabboth. Yr oedd efe ar y pryd rai blwyddau dros bedwar ugain oed. Dyma'r ymddyddan:—
"Sut yr ydych yma heddyw?"
"Digon trafferthus."
"Beth yw'r mater?"
"Y bachgen ieuangaf yn myned i briodi."
"Beth all ë wneud sydd well?"
"Llawer o bethau na phriodi mor ieuanc."
"Beth yw ei oedran?"
"Un-ar-ugain."
"Yr oeddwn i wedi priodi flynyddoedd cyn fy mod yn un- ar-ugain; ac mi gefais grefydd yr un flwyddyn, ac ni chollais i hi byth."
Fel y clywsom ef fwy nag unwaith yn dywedyd, nid oedd ond 19eg oed pan y priododd, ac yn wir nid oedd yn llawn hyny; ond yr oedd yn ddigon agos i ben ei flwydd iddo allu