Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/54

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

prysurdeb gyda gorchwylion y fferm, a dywedodd nad oedd ganddo amser i fyned. Aeth yr ymwelydd at Mrs. Evans, a brysiodd hithau i'r maes, lle yr oedd ei phriod, i'w anog i gydsynio â'r cais. Rhoddodd yr un ateb iddi hithau,—“ Nid oes gen' i ddim amser i fyned." "A fydd genych chwi aniser i farw?" meddai hi yn ol. Gyda'r gair dyna'r gweinidog yn taflu y gorchwyl oedd ganddo o'i law, ac yn brysio i fyned gyda'r gŵr dyeithr. Byddai efe weithiau yn pryderu ac yn brudd—glwyfus; ond yr oedd hi yn ei galonogi. Ac yn ben ar hyn oll, yr oedd Mrs. Evans nid yn unig yn llawn o rinweddau ei rhyw, ond hefyd yn dwyn yn amlwg nodweddau "y ddoethineb sydd oddi uchod."

Tra yno y ganwyd ei

Ar ol eu priodas aeth William Evans a'i wraig ieuanc i fyw gyda'i mam hi, yn y Gelligron, lle yr arosasant am un flwyddyn. Symudasant oddi yno i'r Collena, lle y buont yn preswylio am dair blynedd. Yr ydym eisioes wedi cyfeirio at y Collena, ac wedi crybwyll fod Mr. David Evans, Garthgraban, yn dal rhan o'r tir perthynol, dan Mrs. Prichard. Gwnaeth y tad yn awr roddi i fyny y daliad hwn i'w fab ieuangaf. Yn ystod yr amser y bu y mab yn dal y lle, yr oedd yn byw mewn rhan o balasdy y Collena, a Mrs. Prichard yn preswylio yn y rhan arall o'r tŷ; ac yr oedd y gyfathrach ddedwyddaf rhwng y ddau deulu. gyntaf—anedig, David; a chyn symud oddi yno yr oedd wedi dechreu pregethu. Y lle nesaf yr aeth iddo ydoedd Tylcha Fach (ychydig i'r deau o Donyrefail), ac arosodd yno naw mlynedd. Wedi hyny bu yn dal fferm y Trân am saith mlynedd; ac oddi yno fe symudodd i Gaercurlas Uchaf. Mae y Trân o fewn milldir a haner i'r gorllewin o Donyrefail, a Chaercurlas haner milldir yn nes i'r pentref, ac yn sefyll mewn man serchog, yn gorchymyn golygfa eang. I'r dwyrain, yr ochr arall i'r Corlais, y mae Gelligron yn sefyll; ac yna, y tu arall i'r afon Lai, y saif Collena. Mae pentref Tonyrefail a'i holl amgylchoedd yn y golwg. I'r deau, gwelir i lawr trwy Gwm Lai, heibio Twyn Garthgraban, ac mor bell