Llantrisant, yn 1775. |
Yr oedd pregethu mewn amryw o fanau ereill, lle wedi hyny y codwyd capelau ac y sefydlwyd eglwysi, megys Glynogwr, Dinas Rhondda, Ynysfach, Trelales, Llysyfronydd, St. Ffagan, Eweny, Aberddawen, Pendeulwyn, Pontypridd, a lleoedd ereill. Yn rhai o'r lleoedd pregethu hyn yr oedd eglwysi eisioes wedi eu ffurfio, ac ymgynullent i gadw y cyfarfodydd mewn ystafelloedd cyflogedig. Yr oedd ystafell felly yn Glynogwr, yn St. Ffagan, yn Aberddawen, ac yn Mhontypridd, ac yn ddiameu mewn rhai lleoedd ereill. Yn anffodus nid oedd Dyddiadur Methodistaidd yn cael ei gyhoeddi yr adeg hono, nac am flynyddoedd wedi hyny, yn dangos trefn y teithiau Sabbothol yn Morganwg ar y pryd; ond yn y cyfrif manwl a gadwodd Mr. Evans o'i lafur gweinidogaethol, yr ydym yn gweled pa fodd yr oedd efe yn teithio, ac yn ddiau yn cael yn agos yr hyn oedd trefn